Yn ôl i newyddion

Rydym yn cefnogi #iwill

Rydym yn ymuno â mwy na 700 o fudiadau i ddweud #iwill yn ystod 20fed - 24ain Tachwedd, yn helpu dathlu pobl ifanc sy’n arwain gweithredu cymdeithasol a’u gallu i ddwyn eraill ynghyd.

Ysgrifennwyd gan Fiona

17 Tach, 2017

Rydym yn cefnogi #iwill
Rydym yn ymuno â mwy na 700 o fudiadau i ddweud #iwill yn ystod 20fed - 24ain Tachwedd, yn helpu dathlu pobl ifanc sy’n arwain gweithredu cymdeithasol a’u gallu i ddwyn eraill ynghyd.

Mae pobl ifanc ledled y DU, mor ifanc â 10 oed, yn gwneud pethau ysbrydoledig yn eu cymunedau bob dydd i helpu pobl eraill, trwy weithgareddau gweithredu cymdeithasol megis ymgyrchu, codi arian neu wirfoddoli o’u hamser. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr eleni rydym eisiau dathlu’r rôl y mae pobl ifanc yn ei chwarae a’r gwahaniaeth y mae cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol yn ei wneud iddyn nhw ac i eraill.

Ein hadduned #iwill fydd gweithio gyda 25 o ysgolion lleol dros y pum mlynedd nesaf, ymgysylltu gyda, a recriwtio mwy o bobl i ymuno â’n grŵp ieuenctid The Volume, a chynyddu cyfleoedd prentisiaeth.

Meddai ein Prif Weithredwr Paula Kennedy; “Rydym yn frwd ynglŷn â datblygu ein perthynas ag ysgolion lleol ym mhob bwrdeistref lle’r ydym yn gweithio. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd datblygu, annog a gweithio gyda phobl ifanc heddiw. Rydym eisiau creu cyfleoedd i gymaint o bobl ifanc 10-20 oed ag y bo modd; bydd hyn yn gwella eu sgiliau ac yn cryfhau cymunedau. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein rhaglen ysgolion, cyfleoedd prentisiaeth a’n grŵp ieuenctid The Volume.”

Gan weithio gyda phartneriaid busnes, addysg a’r sector gwirfoddol, nod ymgyrch #iwill yw sicrhau bod holl bobl ifanc yn medru cael cyfleoedd gweithredu cymdeithasol, beth bynnag yw eu cefndir. Canfu arolwg Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid yn ddiweddar bod lefelau cyfranogiad pobl ifanc 10-20 oed ar hyn o bryd yn 42%. Nod #iwill fydd codi hyn i 60% erbyn 2020, a fydd yn golygu bod 1.5 miliwn yn fwy o bobl ifanc yn weithgar yn eu cymunedau.

Meddai Charlotte Hill, Prif Swyddog Gweithredol Step Up To Serve, yr elusen sy’n cydgysylltu’r ymgyrch #iwill: “Rydym wrth ein boddau bod Cartref Melin wedi addo cefnogi ein gwaith, a’u bod heddiw yn rhannu eu cynnydd i ysbrydoli eraill i gymryd rhan hefyd. Os ydym i wneud cyfranogiad mewn gweithredu cymdeithasol y peth normal i rai 10-20 oed, rydym angen partneriaid i ymrwymo i gamau gweithredu penodol fel y maen nhw’n ei wneud. Bydd cyfranogiad Melin yn ddi-os yn ein helpu i symud tuag at ein nod uchelgeisiol.’

Os hoffech chi gael gwybod rhagor am ein hadduned, cysylltwch â’n Tîm Cyfathrebu.

Yn ôl i newyddion