Yn ôl i newyddion

Rôl newydd i helpu pobl hŷn

Mae Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen wedi creu swydd newydd i ddarparu gwasanaeth o'r enw Ymdopi'n Well, a gynlluniwyd i atal pobl hŷn sy'n dioddef pan fydd argyfwng.

Ysgrifennwyd gan Sam

27 Ebr, 2016

Dawn Grant-Crichton
Mae Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen wedi creu swydd newydd i ddarparu gwasanaeth o'r enw Ymdopi'n Well, a gynlluniwyd i atal pobl hŷn sy'n dioddef pan fydd argyfwng.
Mae Dawn Grant-Crichton, Gweithiwr Achos Gofal a Thrwsio sydd wedi'i lleoli yng Nghartrefi Melin ym Mhont-y-pŵl, yn gyfrifol am helpu pobl hŷn i gael mynediad i'r gwasanaeth newydd hwn a fydd hefyd ar gael ar gyfer unrhyw drigolion Melin sy'n dioddef o ddementia neu nam ar y synhwyrau.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sef cyfanswm o £1.25m dros 3 blynedd, a bydd yn helpu pobl hŷn sy'n byw mewn tai gwael, sy'n fregus, dioddef o ddementia, nam ar y synhwyrau neu sy'n agored i niwed mewn ffyrdd eraill.
Meddai Chris Jones, Prif Weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych i bobl hŷn ledled Cymru. Bydd y bartneriaeth yn ein galluogi i gyrraedd pobl hŷn sy'n agored i niwed cyn iddynt ddioddef argyfwng. Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaeth ataliol sy'n cydnabod y gall tai gwael arwain at iechyd gwael, derbyniadau i'r ysbyty, ymweliadau â meddygfeydd meddygon teulu, neu gartrefi gofal preswyl. Rydym wedi dadlau ers tro bod tai da yn gonglfaen pwysig o ran darparu gwasanaethau integredig sy'n oedi, lleihau, neu atal yr angen am Wasanaeth Iechyd Gwladol neu wasanaethau Cymdeithasol."
Meddai Nicola Maule Rheolwr Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen: “Mae Ymdopi’n Well yn dod â nifer o wasanaethau gwerthfawr ynghyd, a’r cyfan oll i helpu pobl hŷn neu bobl fwy agored i niwed. Mae’r rôl newydd hon yn ffordd arall i ni gynorthwyo pobl hŷn yn ardaloedd ein hawdurdod lleol a hynny i fyw’n annibynnol yn eu cartref.”
Ychwanegodd Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru: "Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Gofal a Thrwsio a RNIB Cymru ar y gwasanaeth newydd hollbwysig hwn. Mae'r fath ymagwedd o bartneriaeth gref yn golygu bod y 575,500 o bobl yng Nghymru sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw yn awr yn gallu cael mynediad at gymorth mawr ei angen i'w galluogi i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi. "
Mae Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru hefyd yn croesawu’r newyddion, gan ddweud "Mae colli golwg yn effeithio ar bobl o bob oed, ond yn enwedig pobl hŷn. Yng Nghymru, mae un o bob pump o bobl sydd dros 75 oed, ac un o bob dau sy'n 90 mlwydd oed a hŷn yn colli eu golwg, ac mae'n debyg y bydd y niferoedd hyn yn dyblu yn y 25 mlynedd nesaf. Gwyddwn fod pobl sydd wedi colli eu golwg mewn mwy o berygl o syrthio a dioddef o iselder. Dyna pam y mae'r gwasanaeth newydd hwn yn amserol a bydd yn darparu cymorth mawr ei angen i'r bobl hŷn sydd wedi colli golwg, i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi. "

Yn ôl i newyddion