Yn ôl i newyddion

Gwario llai ar gostau gwresogi

Y ffordd orau o wario llai ar eich costau gwresogi yw defnyddio llai o wres, ac felly rydyn ni wedi llunio cyngor defnyddiol i'ch helpu chi i gadw'n gynnes ac i ymdopi â chost eich biliau cyfleustodau.

Ysgrifennwyd gan Will

14 Tach, 2023

Llun o thermostat trydanol

Cyngor ar wresogi eich cartref ac effeithlonrwydd ynni

  • Caewch eich llenni

Maen nhw'n dweud bod tua 10-20% o wres y cartref yn cael ei golli trwy ffenestri a drysau allanol. Mae'n swnio'n syml, ond bydd cau eich llenni (neu fleinds) yn y nos yn helpu cadw'r gwres i mewn ac yn lleihau unrhyw ddrafft sy'n dod o'ch ffenestri. Os ydyn nhw'n hongian o flaen rheiddiaduron, rhowch nhw tu ôl iddynt, fel bod y gwres yn dal i allu dod i mewn i'ch ystafell. Ond, sicrhewch eich bod yn agor eich llenni yn y bore, oherwydd mae gadael golau'r haul i mewn yn gallu helpu gwresogi eich cartref yn ystod y dydd.

Syniad arall yw prynu llenni thermol. Mae'r llenni wedi eu gwehyddu'n drwchus ac wedi eu dylunio i uchafu’r inswleiddio a'r gwres mewn ystafell.

  • Cadwch reolaeth ar eich rheiddiaduron

Oes gennych chi ystafelloedd nad ydych yn treulio llawer o amser ynddynt? Diffoddwch y rheiddiadur(on) neu eu gosod ar y lefel isaf bosibl a chau'r drws/drysau er mwyn arbed ynni.

Yn yr ystafelloedd yr ydych yn eu defnyddio, ceisiwch gadw eich rheiddiaduron a'ch gwresogyddion yn glir er mwyn iddynt wresogi'r ystafell yn effeithiol. Fel arall, bydd y gwres yn mynd i gefn eich soffa (neu beth bynnag sydd o flaen y rheiddiaduron/gwresogyddion).

  • Blociwch unrhyw ddrafftiau

Os oes unrhyw ddrafftiau yn eich tŷ, peidiwch â'u hanwybyddu. Mynnwch rywbeth sy'n cadw'r drafft allan er mwyn atal drafftiau rhag dod o dan eich drysau, ac os nad oes gennych rywbeth penodol gallwch ddefnyddio hen dywel wedi'i rolio i wneud y gwaith.

  • Gwisgwch haenau o ddillad

Un o'r ffyrdd gorau o'ch cadw'n gynnes yw gwisgo haenau o ddillad. Mae dillad mwy trwchus yn gallu ein cadw ni'n gynnes, ond mae haenau o ddillad hyd yn oed yn fwy effeithiol wrth gadw'r gwres i mewn. Gall fest o dan eich top neu siwmper/hwdi eich cadw'n gynnes iawn a chael gwared ar yr angen i droi'r gwres i fyny.

  • Duvets, blancedi a photeli dŵr poeth

Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r math iawn o dduvet ar gyfer y tymor. Mae gan bob duvet gyfradd 'tog' a dylech ddefnyddio duvet â thog uwch yn y gaeaf i'ch cadw'n gynnes. Bydd o gymorth i ddefnyddio llai o wres. Os yw eich duvet braidd yn denau, mae rhoi blanced ar ei ben yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Gallwch hefyd roi potel dŵr poeth o dan y blancedi cyn i chi fynd i'r gwely.

  • Cydbwysedd rhwng gwres ac awyru

Un o'r ffyrdd haws o gadw'ch cartref yn gynnes yw sicrhau bod ffenestri a drysau ar gau, oherwydd dydych chi ddim am adael i unrhyw wres ddianc. Ond, mae'n bwysig awyru eich cartref hefyd, yn enwedig yr ystafell ymolchi neu ystafell ble mae yna ddillad yn sychu. Y ffordd orau o sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau yw cadw ffenestri a drysau ar gau pan fydd eich gwres ymlaen, a'u hagor am ychydig pan na fydd y gwres ymlaen. Sicrhewch eich bod yn defnyddio systemau awyru ble mae gennych rai e.e. yn eich ystafell ymolchi.

Yn ôl i newyddion