Yn ôl i newyddion

Siocled, siocled a mwy o siocled yn rhodd i elusen

Siocled, siocled a mwy o siocled yn rhodd i elusen

Ysgrifennwyd gan Sam

16 Maw, 2016

Siocled, siocled a mwy o siocled yn rhodd i elusen

Y Pasg hwn, mae trigolion yng nghynllun tai gwarchod yng Nghwmbrân wedi rhoi hwb i blant sydd mewn ysbyty canser yng Nghymru gyda rhodd o 100 o wyau siocled.

Aeth Maureen Davies, codwr arian, sy'n un o drigolion Cartrefi Melin yn Waterside Court, ati i ofyn i'w holl gymdogion a fyddent yn hoffi cyfrannu wyau Pasg, a chafodd ei syfrdanu gan eu hymateb.

O'r 33 o fflatiau ar y safle yng Nghwmbrân aethant ati i gasglu 100 o wyau. Cafodd Maureen, ei gŵr Robert a rheolwr y cynllun Norma Andrews eu gyrru i swyddfeydd LATCH yn Ysbyty Prifysgol Cymru (Heath) ar fws Melin.Meddai Maureen: “

Meddai Maureen: “Cawsom ymateb gwych ac mae pobl wedi bod yn awyddus iawn i gefnogi’r ysbyty i blant.”Mae LATCH yn cefnogi plant sy'n derbyn triniaeth i drechu canser, a'u teuluoedd. Bydd yr wyau yn cael ei dosbarthu i gleifion allanol ifanc sy'n ymweld â'r clinig, eu brodyr a'u chwiorydd, yn ogystal â'r plant sy'n aros yn yr ysbyty.

Mae LATCH yn cefnogi plant sy'n derbyn triniaeth i drechu canser, a'u teuluoedd. Bydd yr wyau yn cael ei dosbarthu i gleifion allanol ifanc sy'n ymweld â'r clinig, eu brodyr a'u chwiorydd, yn ogystal â'r plant sy'n aros yn yr ysbyty.Meddai Allie Price Swyddog Gweinyddol LATCH: "Hoffem ddiolch i Maureen Davies a thrigolion Waterside Court am roi'r wyau ac i Gartrefi Melin am gefnogi Maureen yn ei hymdrechion i godi arian. Mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth

Meddai Allie Price Swyddog Gweinyddol LATCH: "Hoffem ddiolch i Maureen Davies a thrigolion Waterside Court am roi'r wyau ac i Gartrefi Melin am gefnogi Maureen yn ei hymdrechion i godi arian. Mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion a'u teuluoedd i wybod bod pobl yn meddwl amdanynt ar adeg anodd iawn yn eu bywydau."Os hoffech wybod mwy am waith LATCH neu os ydych am gyfrannu at eu hachos,

Os hoffech wybod mwy am waith LATCH neu os ydych am gyfrannu at eu hachos, beth am ymweld â’u gwefan.


Yn ôl i newyddion