Yn ôl i newyddion

Ydych chi'n gwybod sut i leihau eich risg o gael strôc?

Mae'r Gymdeithas Strôc wedi lansio ymgyrch Cymru gyfan sy'n anelu i leihau nifer yr achosion o strôc ar draws y wlad.

Ysgrifennwyd gan Sam

30 Ion, 2017

Ydych chi'n gwybod sut i leihau eich risg o gael strôc?
Mae tri ffactor risg penodol sy'n rhoi pobl mewn mwy o berygl o gael strôc. Mae ymgyrch yr elusen, Gostyngwch eich risg o gael strôc yn codi ymwybyddiaeth ynghylch nifer y strociau a achosir gan bwysedd gwaed uchel, Ffibriliad Atrïaidd (AF) a Phyliau o Isgemia Dros Dro (TIA), a elwir hefyd yn strociau bach.

Meddai Ana Palazón, Cyfarwyddwr Cymdeithas Strôc Cymru:
“Trwy gymryd camau ynghylch tri o'r ffactorau risg mwyaf sy’n gysylltiedig â strôc, gallem leihau nifer y strociau ar draws Cymru o hyd at 50%. Rydym yn gofyn i bobl wneud tri pheth syml:
  • Gwirio’u pwysau gwaed unwaith y flwyddyn
  • Gwirio curiadau’r galon i weld a oes unrhyw anghysondebau
  • Ceisio sylw meddygol ar unwaith os ydynt yn cael unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â strôc, fel gwendid yn yr wyneb, breichiau neu siarad yn aneglur.”
Pwysau gwaed uchel yw un o’r ffactorau risg mwyaf o ran strôc, sy’n cyfrannu at 54% o strociau. Nid oes gan bwysau gwaed uchel unrhyw symptomau felly'r unig ffordd i wybod os ydych yn dioddef ohono yw drwy fesur eich pwysau gwaed yn rheolaidd.

Ffibriliad Atrïaidd (neu AF) yw’r anhwylder y galon fwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae pobl sy’n dioddef o AF bum gwaith yn fwy tebygol o gael strôc, ac mae strociau a achosir gan AF yn fwy tebygol o arwain at farwolaeth, neu arwain y sawl sy’n goroesi at lefelau uwch o anabledd.

Y trydydd ffactor risg mwyaf yw Pwl o Isgemia Dros Dro (TIA) sy’n digwydd pan fydd ymyriad dros dro i’r cyflenwad gwaed i’r ymennydd. Er efallai na fydd y symptomau’n parhau’n hir, mae pwl o Isgemia dros dro yn ddifrifol iawn. Mae’n arwydd bod person mewn perygl o fynd ymlaen i gael strôc. Dyna paham y mae TIA yn aml yn cael ei alw’n rhybudd o strôc, eto i gyd, mae cymaint o bobl yn hollol anymwybodol o’r cyswllt rhwng TIA a strôc felly’n peidio â chael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Yn aml, mae pobl yn anwybyddu symptomau TIA fel “pwl bach od”; fodd bynnag, gall hynny beryglu bywyd, am fod dros 25% o’r bobl sydd wedi cael strôc eisoes wedi cael strôc o’r blaen neu TIA.

Dylid trin holl symptomau strôc o ddifri, waeth pa mor gyflym y maen nhw'n pasio. Dylai pobl gadw golwg am wendid yn yr wyneb neu'r wyneb yn gwyro, colli'r gallu i symud un ochr neu broblemau wrth siarad.

Mae neges Act FAST (wyneb, braich, lleferydd ac Amser i alw 999) yn hynod bwysig. Gorau po gyntaf y bydd pobl yn cael cymorth meddygol, gorau oll fydd eu canlyniadau a lleiaf oll eu hanableddau. Peidiwch ag anwybyddu pyliau bach od, ffoniwch 999 ar unwaith.
Y 5 peth pwysicaf yr ydym am i chi eu gwneud:
  1. Mynd i gael prawf pwysau gwaed a gwirio’ch curiad calon.
  2. Dysgu prawf FAST (Wyneb, Braich, Lleferydd Ffonio).
  3. Rhannu prawf FAST gyda’ch ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr.
  4. Dangos eich cefnogaeth tuag at yr ymgyrch drwy ddefnyddio hash nodau’r ymgyrch #StrokeRisk a #Lleihaustroc ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  5. Dangos eich cefnogaeth i’r ymgyrch drwy rannu ac ail-anfon negeseuon trydar cyfryngau cymdeithasol y Gymdeithas Strôc ar Facebook a Twitter.
I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch cysylltwch â’r Gymdeithas Strôc ar 02920 524400 neu e-bostiwch.
Os ydy strôc wedi effeithio arnoch chi neu aelod o’ch teulu, rhowch alwad i linell gymorth y Gymdeithas Strôc ar 0303 3033 100.

Yn ôl i newyddion