Yn ôl i newyddion

Cefnogi banciau bwyd cymunedol

Rydym yn falch o rannu’r newyddion ein bod wedi ymuno gyda dau o’n trigolion i gefnogi creu banc bwyd newydd, ‘Helping Hands R-Us’ i gefnogi cymunedau yn ardaloedd Y Dafarn Newydd, Pont-y-moel a Phenygarn ym Mwrdeistref Sirol Torfaen.

Ysgrifennwyd gan Fiona

15 Maw, 2022

Fiona Williams o Melin a Paul Stephens-Warburton o Helping Hands R Us yn y llun yn dal pecynnau bwyd amrywiol

Cysylltodd ‘Helping Hands R-Us’ â Melin yn wreiddiol gan fod y sefydliad yn chwilio am le storio ar gyfer eitemau a gyfrannwyd ac roedd yn brysur redeg allan o le. Roeddem yn awyddus iawn i gefnogi’r banc bwyd newydd ac fel roedd yn digwydd roedd gennym le dros ben yn Nhŷ Clarence nad oeddem yn ei ddefnyddio.

Rydym nawr wedi arwyddo cytundeb prydles gyda ‘Helping Hands R-Us’ gan godi rhent bach o £1. Mae hyn yn golygu y gall y banc bwyd weithredu o Dŷ Clarence heb orfod poeni am gostau storio nawr a gallu canolbwyntio ar wasanaethu cymunedau mewn angen yn Nhorfaen.

Mae ‘Helping Hands R-Us’ nid yn unig yn helpu gyda pharseli bwyd, ond hefyd yn helpu i ddarparu dillad babi, teganau ac offer i deuluoedd.

Roedd Paul Stephens-Warburton, un o sylfaenwyr ‘Helping Hands R-Us’ wrth ei fodd o bartneru gyda Chartrefi Melin. Meddai: “Roeddem wedi gweld bod angen am gymorth yn yr ardal leol ac felly ganwyd ‘Helping Hands R-Us’!

“Mi wnaethon ni gychwyn gyda chasgliad tun ar ben wal a thrwy haelioni cyfranwyr a chasglwyr rydym wedi gallu cefnogi teuluoedd sy’n cael anawsterau cael digon o fwyd. Roeddem yn ddiolchgar pan gynigiodd Melin ystafell i ni y gallwn ei defnyddio, gan ein galluogi i symud ymlaen. Byddai’n rhaid i ni fod wedi cau pe na byddai Melin wedi gwneud hyn.

“Ar hyn o bryd, rydym yn cynorthwyo tair ysgol leol gyda danteithion y Nadolig a’r Pasg, gan weithio’n agos gyda swyddogion cyswllt teuluoedd ym mhob ysgol. Dros y Nadolig, roeddem yn gallu rhoi 85 o becynnau bwyd Nadolig i’r holl deuluoedd rydym yn eu cefnogi.

“Yn yr un modd, rydym yn cefnogi teuluoedd drwy ailgylchu eitemau babi/teganau sy’n cael eu cyfrannu.

“Rydym wedi bod yn ffodus iawn o gael ein cefnogi nid yn unig gan aelodau ein cymunedau lleol ond gan Melin a hefyd Maben, Cwmbran Hire a TSM, pob un o’r rhain sydd wedi cyfrannu faniau ar adegau gwahanol."

Roeddem yn ddiolchgar pan gynigiodd Melin ystafell i ni y gallwn ei defnyddio, gan ein galluogi i symud ymlaen. Byddai’n rhaid i ni fod wedi cau pe na byddai Melin wedi gwneud hyn.

Paul Stephens-Warburton, Cyd-sylfaenydd — Helping Hands R-Us

Mae staff Melin wedi bod yn casglu rhoddion bwyd, teganau a dillad babi sydd wedi eu rhoi i ‘Helping Hands R-Us’. Bydd staff yn parhau i gasglu nwyddau tun er mwyn cefnogi ymhellach y casgliad tun ar y wal.

Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin: “Mae’n anrhydedd gallu cefnogi ‘Helping Hands R-Us’ yn eu cenhadaeth i gynorthwyo’r gymuned leol yn Nhorfaen. Mae Paul a’i gyd-wirfoddolwyr yn gwneud rhywbeth hynod gan roi o’u hamser i wneud yn siŵr nad yw teuluoedd lleol ar eu heisiau.

“Mae’r argyfwng costau byw wedi pwysleisio’r anawsterau y mae llawer o deuluoedd yn eu wynebu ledled y wlad, ac rwy’n falch bod Melin yn chwarae rhan i gefnogi gwaith ‘Helping Hands R-Us.’ Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda ‘Helping Hands R-Us’ a dymunwn yn dda iddynt wrth iddynt barhau i dyfu.”

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld