Cefnogi Mis Pride ym mis Mehefin a thu hwnt
Mae mis Mehefin yn fis arwyddocaol i gymunedau ledled Cymru gan ei fod yn nodi Mis Pride, sef mis sy'n dathlu hawliau unigolion LHDT+ ac yn eirioli drostynt. Mae Melin yn falch o sefyll mewn undod â chymunedau LHDT+, ac rydym yn falch o'n hanes o feithrin amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu.
Ysgrifennwyd gan Will
—10 Meh, 2024
Eleni, rydym wedi bod yn arbennig o falch o noddi nifer o ddathliadau Pride ar draws ein rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, a chymryd rhan ynddynt.
Pride Torfaen
I ddechrau’r mis, fe wnaethon ni noddi Pride Torfaen ar 1 Mehefin. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ym Mharc Pont-y-pŵl, yn ddathliad bywiog a ddaeth â phobl o bob rhan o fwrdeistref sirol Torfaen at ei gilydd i ddathlu'r gymuned LHDT+. Helpodd ein nawdd i sicrhau bod y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn bosibl, a dangosodd nad yw Pride ar gyfer cymunedau mewn dinasoedd a threfi mawr yn unig, ond ei fod hefyd i gymunedau'r Cymoedd.
Pride in the 'Port
Yn dilyn Pride Torfaen, rydym wrth ein boddau i gyhoeddi ein nawdd ar gyfer Pride in the 'Port, sef dathliad Pride Casnewydd. Fe fydd Pride in the 'Port yn cael ei gynnal ychydig ar ôl mis Mehefin, ddydd Sadwrn 7 Medi. Bydd yn cynnwys gorymdaith ddathlu, adloniant, cerddoriaeth, bwyd a gweithgareddau i bob oedran.
Mae Pride in the 'Port yn addo bod yn ddigwyddiad gwych arall lle gallwn ddod i gyswllt â thrigolion, dathlu amrywiaeth, a pharhau i eirioli dros gymdeithas gynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn.
Pride Cymru
Mae ein hymrwymiad i Fis Pride yn ymestyn y tu hwnt i nawdd. Rydym yn gyffrous i gymryd rhan yn Pride Cymru (22 a 23 Mehefin 2024) ochr yn ochr â'n partneriaid yn Tai Pawb, elusen cydraddoldeb tai Cymru. Mae'r cydweithio hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector tai i feithrin cymunedau cynhwysol. Trwy ymuno â Tai Pawb, gallwn ddyrchafu ein neges o gydraddoldeb a chynhwysiant, gan sicrhau bod y sector tai yn ffagl o gefnogaeth i'r gymuned LHDT+.
Gwneud gwahaniaeth
Wrth fyfyrio ar Fis Pride, meddai Bunmi Ajayi-Obanewa, Swyddog Cydraddoldeb Melin: "Mae Mis Pride yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed tuag at hawliau LHDT+ ac i gydnabod y gwaith sydd angen ei wneud o hyd. Mae'n amser i ddathlu amrywiaeth ein pobl ac i ailddatgan ein hymrwymiad i feithrin cymunedau cynhwysol.
Rwy'n falch iawn o'n cyfraniad ni at wneud dathliadau Pride yn bosibl yn ein rhanbarth a’n gwaith gyda phartneriaid lleol i sicrhau ein bod yn cynrychioli ac yn gwasanaethu pob aelod o'n cymuned, waeth beth fo’u cefndir a'u hunaniaeth. Gyda'n gilydd, gallwn gyflawni newid effeithiol.