Yn ôl i newyddion

Uwchgynhadledd partneriaid tai Torfaen

Ddoe, bu i ni ymuno gyda chyngor Torfaen, Bron Afon, sefydliadau tai lleol, datblygwyr tai a chynllunwyr i drafod yr heriau tai yn Nhorfaen.

Ysgrifennwyd gan Ffion

28 Hyd, 2022

Partner organisations at the Torfaen housing summit

Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl ac ystyriodd sut y gallai partneriaid, gyda’i gilydd:

• Wneud defnydd gwell o gartrefi presennol

• Gwella ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd cartrefi

• Dod a thir a chartrefi newydd ymlaen

• Bywiogi’r farchnad dai leol

• Delio gyda fforddiadwyedd a llesiant

• Gwneud y mwyaf o gyllidebau a chynyddu buddsoddiad

• Cyflenwi cartref sy’n helpu pobl i gadw annibyniaeth.

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: “Mae’r her dai yma nawr ond rydym hefyd angen gweledigaeth a rennir a fydd yn delio gyda chyflenwad a fforddiadwyedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae cartref addas yn sylfaen y mae holl wasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arno. Ni all plant ddysgu heb gartref sefydlog, cynnes. Mae pobl yn mynd yn sâl mewn cartrefi tamp, o ansawdd gwael. Achosir dioddefaint pan fo cyfran anghynaliadwy o uchel o incwm pobl yn mynd ar gostau tai. Mae tai yn rhywbeth sy’n torri trwy bob un o’n gwasanaethau.

Aeth y Cynghorydd Hunt yn ei flaen:

Mae pa mor dda y mae cymdeithas yn gweithio yn dibynnu ar ansawdd a chyflenwad cartrefi newydd. Mae cymerwyr penderfyniad wedi dod at ei gilydd heddiw i drafod y problemau y mae ein tenantiaid a’n trigolion yn eu wynebu ac i sicrhau ein bod, gyda’n gilydd, yn cefnogi pobl sy’n byw yn ein cartrefi drwy’r argyfwng costau byw presennol. Nid oes digon o gartrefi, felly rhaid i ni ddod â rhagor o gartrefi cynaliadwy, o ansawdd, i’r farchnad.

Cllr Anthony Hunt — Arweinydd Cyngor Torfaen

Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin:

“Ym Melin rydym yn ymfalchïo mewn gweithio ar y cyd gyda’n partneriaid yn yr awdurdod lleol. Mae cyfnod heriol iawn o’n blaenau, ond rydym yn gwybod, drwy weithio gyda’n gilydd, ein bod mewn gwell sefyllfa i gefnogi trigolion a chymunedau.

Mae Uwchgynhadledd Dai Torfaen yn enghraifft wych o sut, drwy weithio mewn partneriaeth, y gallwn symud ymlaen gyda’r syniadau a gynhyrchwyd heddiw a chynllunio ar gyfer dyfodol tai yn Nhorfaen.

Paula Kennedy — Prif Weithredwr Cartrefi Melin

Dywedodd Alan Brunt, Prif Weithredwr Bron Afon:

“Mae pa mor dda y mae cymdeithas yn gweithio yn dibynnu ar ansawdd a chyflenwad cartrefi newydd. Mae cymerwyr penderfyniad wedi dod at ei gilydd heddiw i drafod y problemau y mae ein tenantiaid a’n trigolion yn eu wynebu ac i sicrhau ein bod, gyda’n gilydd, yn cefnogi pobl sy’n byw yn ein cartrefi drwy’r argyfwng costau byw presennol. Nid oes digon o gartrefi, felly rhaid i ni ddod â rhagor o gartrefi cynaliadwy, o ansawdd, i’r farchnad.”

Ar ddiwedd yr uwchgynhadledd, arwyddodd partneriaid allweddol ymrwymiadau lleol a fydd yn creu fforwm tai strategol newydd a strategaeth dai a chynllun gweithredol strategol newydd ar gyfer Torfaen.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld