Yn ôl i newyddion

Torri gwair a gwaith cynnal a chadw ar diroedd

Ar 1af Mai 2020, byddwn yn dechrau ein cytundeb blynyddol i gynnal a chadw tiroedd. Mae oedi wedi bod i’n galluogi i sicrhau ein bod yn gallu gwneud y gwaith yma’n ddiogel; gan ddiogelu’n trigolion, staff a’r cyhoedd.

Ysgrifennwyd gan Valentino

24 Ebr, 2020

Torri’r gwair
Ar 1af Mai 2020, byddwn yn dechrau ein cytundeb blynyddol i gynnal a chadw tiroedd. Mae oedi wedi bod i’n galluogi i sicrhau ein bod yn gallu gwneud y gwaith yma’n ddiogel; gan ddiogelu’n trigolion, staff a’r cyhoedd.

Bydd ein contractwyr yn dechrau gyda chodi sbwriel a chwistrellu chwyn, ac yna’n torri’r gwair.

Ni fyddwn yn gweithio ar unrhyw un o’n cynlluniau cartrefi gwarchodedig neu ofal ychwanegol am y tro. Mae hyn er mwyn i ni gynnig rhagor o ddiogelwch i’n trigolion mwy bregus. Pan fyddwn ni’n ailddechrau gwaith yn y cynlluniau yma, byddwn yn sicrhau bod Rheolwyr y Cynlluniau yn rhoi digon o rybudd o flaen llaw i’n trigolion..

Byddwch yn gweld ein contractwyr yn gweithio ar y safle fel arfer. Yn y rhan fwyaf o achosion ni fyddan nhw’n gwisgo unrhyw gyfarpar diogelwch personol ychwanegol, fel mygydau, gan na fyddan nhw’n gweithio o fewn 2 fetr i’n trigolion. Byddan nhw hefyd yn dilyn canllawiau eraill gan y Llywodraeth o gylch hylendid da a chadw pellter cymdeithasol.

Rydym yn hyderus ein bod yn gallu ailddechrau ar waith cynnal a chadw yn ddiogel ac ar yr un pryd cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol. Bydd ein staff yn gweithio’n agos gyda’n contractwyr i sicrhau fod y gwaith yma’n cael ei gwblhau yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.

Yn ôl i newyddion