Yn ôl i newyddion

Tîm Cyngor Ariannol yn rhoi £1.4miliwn yn ôl i bocedi trigolion

Mae ein tîm cyngor ariannol wedi rhoi £1.4miliwn yn ôl i bocedi ein trigolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trwy eu cynorthwyo i sicrhau budd-daliadau, grantiau a ffyrdd eraill o arbed arian.

Ysgrifennwyd gan Marcus

25 Hyd, 2016

Mae ein tîm cyngor ariannol wedi rhoi £1.4miliwn yn ôl i bocedi ein trigolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trwy eu cynorthwyo i sicrhau budd-daliadau, grantiau a ffyrdd eraill o arbed arian.

Mae hyn yn gynnydd o £300,000 ar ffigwr llynedd. Bu’r tîm yn cynorthwyo pobl gyda Thaliadau Annibyniaeth Bersonol, taliadau tai yn ôl disgresiwn, biliau Dŵr Cymru, dyled tanwydd, taliadau pensiwn a chredyd treth. Yn ogystal â hyn mae’r tîm wedi bod yn gweithio gyda thrigolion i reoli’r diwygiadau parhaol i’r gyfundrefn lles a sut y mae’n effeithio ar gyllideb trigolion fel Credyd Cynhwysol. Mae hyn y cynnwys budd-daliadau oedran pensiwn i gynorthwyo pobl hŷn.

Dywedodd Claire Pearce-Crawford, Pennaeth y Tîm Cymorth Ariannol; “Dyma bron i £1.5miliwn o arian ychwanegol ym mhocedi ein trigolion, yn eu cynorthwyo’n uniongyrchol trwy amserau caled a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau. Mae’r cymorth yna wedi bod yn arbennig o bwysig oherwydd y diwygiadau mawr yn y gyfundrefn lles sydd wedi bod yn mynd ymlaen. Gall unrhyw drigolion sy’n chwilio am gymorth gysylltu â thîm Cyngor Ariannol Melin ar 01495 745910 neu trwy e-bostio moneyadvice@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion