Yn ôl i newyddion

Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Sy’n Hyderus o ran Anabledd

Ysgrifennwyd gan Fiona

16 Medi, 2022

Logo cyflogwr sy'n hyderus o ran anabledd

Rydym yn falch o fod yn gyflogwr achrededig sy'n hyderus o ran anabledd– sy’n golygu ein bod wedi cofrestru ar gynllun cenedlaethol sy’n annog busnesau i chwalu rhwystrau i bobl anabl sydd am weithio, a hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth ynghylch yr heriau y gallent eu hwynebu.

Rydym wedi cyflawni statws lefel dau drwy ein camau gweithredu, ein gweithgareddau a’n hymarferion yn y maes hwn. Ymgeisiwn i gyflawni lefel tri yn y dyfodol a dod yn hyrwyddwr o fewn ein cymuned a’n sector. Mae bod yn sefydliad sy’n Hyderus o ran Anabledd yn ein cefnogi i chwarae rôl arweiniol i newid agweddau er gwell. Rydym yn newid ymddygiad a diwylliannau yn ein sefydliadau, rhwydweithiau a chymunedau ac yn elwa’n fawr iawn ar ein hymarferion recriwtio cynhwysol.

Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn ein helpu i:

  • Manteisio ar gronfa ehangach o dalent i ddiwallu anghenion eu gweithlu
  • Recriwtio a chadw staff o ansawdd uchel
  • Lleihau nifer y staff sydd yn mynd a dod, gan arbed amser ac arian ar recriwtio a hyfforddi
  • Dal gafael ar sgiliau a phrofiad gwerthfawr
  • Lleihau absenoldeb oherwydd salwch
  • Gwella ysbryd y staff drwy ddangos ymrwymiad i drin pob gweithiwr yn deg
  • Newid agweddau, ymddygiad a diwylliant mewn ffordd bositif.

Rydym wedi ymrwymo i ddenu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned - os oes gennych anabledd ac yn gwneud cais am un o'n swyddi, byddwn hefyd yn gwneud unrhyw addasiadau rhesymol y gallwn i sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi'n llawn yn y cam cyfweld ac yn y gweithle pe byddech yn llwyddiannus.

Mae lles staff wrth galon ein sefydliad ac mae lles iechyd meddwl yn rhan allweddol o hyn. Rydym wedi llofnodi'r Adduned Amser i Newid, gan ymrwymo i wella agweddau tuag at iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu mynd i'r afael â gwahaniaethu ac annog staff i siarad yn agored am faterion iechyd meddwl fel bod modd eu cefnogi'n llawn.

Adrian Huckin — Cyfarwyddwr Gweithredol, Cartrefi Melin

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld