Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Ydych chi’n gwybod am rywun sydd angen help gan ein tîm cynhwysiant digidol?

Mae mynd ar-lein yn gallu bob yn llwybr at y byd ehangach a’r ffordd orau o gyrraedd yr holl wasanaethau sydd ar gael.

Ysgrifennwyd gan Marcus

19 Rhag, 2017

cynhwysiant digidol
Mae mynd ar-lein yn gallu bob yn llwybr at y byd ehangach a’r ffordd orau o gyrraedd yr holl wasanaethau sydd ar gael. Mae’n gallu:

● Eich galluogi i gyrraedd y budd-daliadau y mae gyda chi hawl iddyn nhw, fel Credyd Cynhwysol;

● Arbed arian i chi trwy gymharu prisiau ar ynni, yswiriant neu siopa;

● Eich helpu chi i ddysgu, gyda byd o wybodaeth ar flaenau’ch bysedd;

● Eich cadw mewn cysylltiad â ffrindiau pell ac agos yn ogystal â’ch cadw chi mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd yn eich cymuned leol;

● Eich galluogi chi i siopa ar-lein a chael eich siopa at y drws, talu treth eich car neu hyd yn oed drefnu apwyntiad gyda’ch doctor.

Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod gan bob trigolyn gyfle i gysylltu â’r rhyngrwyd.

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n cael trafferth mynd ar-lein?

Yna mynnwch air gyda’n tîm Cynhwysiant Digidol. Maen nhw’n gallu eich helpu i fynd ar-lein, rhoi cyngor diduedd ar fand eang fforddiadwy, dyfeisiau a bargeinion i wneud pethau mor hawdd â phosibl. Unwaith y byddwch chi wedi cysylltu gallan nhw helpu gyda sefydlu e-bost, siopa a bancio ar-lein a ffyrdd eraill i fynd at wasanaethau ar-lein.

Swnio’n dda? Gallwn ni helpu. Ffoniwch ein Swyddog Cynhwysiant Digidol Louise Kingdon ar 01495 745910 neu danfonwch e-bost at enquiries@melinhomes.co.uk



Yn ôl i newyddion