Yn ôl i newyddion

Gwaith yn dechrau ar gartrefi gwarchodedig ym Mhilgwenlli

Bydd ailddatblygiad sylweddol o lety i bobl hŷn ym Mhilgwenlli yn dechrau’r mis yma gyda dymchwel bloc o fflatiau gwag.

Ysgrifennwyd gan Sam

15 Meh, 2020

artrefi gwarchodedig ym Mhilgwenlli
Bydd ailddatblygiad sylweddol o lety i bobl hŷn ym Mhilgwenlli yn dechrau’r mis yma gyda dymchwel bloc o fflatiau gwag.
Mae disgwyl i ddymchwel bloc o 39 o fflatiau yng Nghwrt Tredegar, Marion Street ddechrau ar Fehefin 15fed a daw 47 o fflatiau un a dwy ystafell wely mewn fflatiau gwarchodedig ar gyfer y rheiny dros 55 oed yn eu lle.
Bydd Vistry Partnerships yn adeiladu’r cartrefi yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth ar iechyd a diogelwch, ar ôl cyflwyno mesurau gwaith newydd i sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd.
Cymeradwyodd Cyngor Dinas Casnewydd y cynlluniau ailddatblygu yn Chwefror ac mae’n ariannu cyfanswm o dros £3.8 miliwn, trwy’r grant tai cymdeithasol, ar gyfer yr adeilad a fydd yn cynnig ystafell staff, lolfa gymunedol a 29 o fannau parcio.
Mae bloc arall yn aros yng Nghwrt Tredegar a bydd yn rhannu iard gymunedol unwaith bydd yr adeiladwaith wedi dod i ben.
Rydym wedi gweithio gyda’r awdurdod lleol ac wedi ymgynghori â’r gymuned leol a’r canlyniad yw cynllun i gynnwys gardd dementia-gyfeillgar, wedi ei chynllunio i roi amgylchedd tawel a phrofiad synhwyraidd. Bydd yr ardd yn rhoi cyfle hefyd i drigolion dyfu llysiau a ffrwythau.
Bydd storfeydd hefyd ar gyfer sgwteri mudoledd gan gynnwys pwyntiau gwefru ar y safle i drigolion eu defnyddio.
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Melin, Paula Kennedy: “Mae’r dymchwel yn nodi cam cyntaf adeiladu’r cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel y mae eu dirfawr angen yn yr ardal. Serch hynny, ein bwriad yw nid yn unig adeiladu cartrefi, ond hefyd creu cymuned gynhwysol gyda rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer pobl hŷn a fydd yn helpu ymladd unigrwydd.”
Dywedodd Craig Currie, Rheolwr Gyfarwyddwr Vistry Partnerships West: “Ar ôl cyflwyno rheolau llym i sicrhau fod y gwaith yn gallu cael ei wneud yn ddiogel ac yn unol â’r cyngor diweddaraf ar iechyd cyhoeddus, rydym yn falch o fod yn dechrau’r gwaith yng Nghwrt Tredegar, gan weithio’n agos gyda Chartrefi Melin i ddod â chartrefi fforddiadwy i’r gymuned leol.”
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rwy’n hynod o falch fod y cyngor yn gallu cynorthwyo Cartrefi Melin gyda chynllun mor ardderchog a fydd yn cynnig nid yn unig cartrefi newydd dymunol, ond amgylchedd anhygoel i drigolion hefyd."

Yn ôl i newyddion