Yn ôl i newyddion

Cyffro ar Gyfer Bod yn Wyrddac

Cyffro ar Gyfer Bod yn Wyrddach wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ymweld â Chynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn Trowbridge, Caerdydd.

Ysgrifennwyd gan Fiona

15 Chwef, 2017

Cyffro ar Gyfer Bod yn Wyrddac
Cyffro ar Gyfer Bod yn Wyrddach wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ymweld â Chynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn Trowbridge, Caerdydd.

Mae’r ymweliad yn cyd-ddigwydd gyda chyhoeddiad y bydd £104 miliwn pellach ar gael dros y pedair blynedd nesaf gan gynyddu effeithlonrwydd ynni hyd at 25,000 o gartref ar draws Cymru, gan helpu i dorri biliau ynni a gwella iechyd a lles rhai o deuluoedd mwyaf bregus Cymru.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â Mr a Mrs Foley sydd wedi ymddeol ac sydd wedi elwa o’r buddsoddiad arbed blaenorol o £3.5 miliwn, gan wella effeithlonrwydd ynni 373 o gartrefi yn Trowbridge.

Wrth siarad am y prosiect dywedodd Mr a Mrs Foley, “Nid yn unig y mae ein cartref yn edrych yn hyfryd, ond rydym wedi arbed dros £200 mewn gwariant ynni mewn 6 mis yn unig! Mae’r cyngor a gawsom ar ynni wedi bod yn gymaint o help. Cyngor syml ar gyfer bywyd pob dydd. Rydym mor ddiolchgar am y cynllun.”

Mae tîm Bod yn Wyrddach yn rheoli’r cynllun presennol gan sicrhau y bydd busnesau lleol yn derbyn y cytundeb i gyflenwi’r mesurau effeithlonrwydd ynni. Mae’r tîm yn frwd dros sicrhau bod trigolion yn derbyn cyngor ar ynni, cyflogaeth, cyfleoedd i hyfforddi yn ogystal â sicrhau eu bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau mae hawl ganddyn nhw iddynt.

Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Melin Homes Paula Kennedy, “Rydym yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad ar ariannu pellach. Mae prosiectau fel hyn yn angenrheidiol i gymunedau sy’n brwydro gyda chostau ynni uchel a chartrefi sy’n anodd eu gwresogi. Rydym yn falch ein bod ni wedi cyflenwi 35 o gynlluniau effeithlonrwydd ynni ar ran Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol a sut y bydd rhaglen Cartrefi Clyd yn cael ei gyflenwi.”




Yn ôl i newyddion