Yn ôl i newyddion

Zest in the Park 2019

Rhuthrodd dros 700 o bobl i Barc Pont-y-pŵl ar gyfer ein pumed parti yn y parc gyda thro iach!

Ysgrifennwyd gan Fiona

14 Awst, 2019

Zest in the Park 2019

Rhuthrodd dros 700 o bobl i Barc Pont-y-pŵl ar gyfer ein pumed parti yn y parc gyda thro iach!

Roedd Zest in the Park yn cynnwys sawl stondin gennym ni, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, Campfa Legacy, Sboncen Cymru, wal ddringo, castell bownsio a phaentio wynebau.

Daeth Fferm Gymunedol Greenmeadow â nifer o anifeiliaid gyda nhw i gynnal sesiwn cwrdd a chyfarch tra bod Hyfforddiant Beicio Cymru'n sicrhau bod beiciau ymwelwyr mewn cyflwr da, drwy gynnig gyda gwasanaeth am ddim.

Dywedodd Sharon Crockett, Cyfarwyddwr Arloesi a Diwylliant, “Bob blwyddyn mae’r digwyddiad wedi tyfu, ac eleni fu’r gorau hyd yma. Fe wnaethon ni gysylltu'r digwyddiad â'r diwrnod Chwarae Cenedlaethol a defnyddio ein masgot Oren i hysbysebu cyn y digwyddiad. Mae mor bwysig ysbrydoli'r gymuned leol i ddod yn fwy heini ac iach. Rwy'n credu ein bod wedi dod o hyd i'r rysáit perffaith! Bydd y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am y dyddiad ym mis Awst 2020."

Cafodd yr ymwelwyr gyfle i gael blas ar dylino, ffrwythau am ddim, nwyddau am ddim a balŵns. Gyda'r haul yn ymddangos ymhen hir a hwyr roedd y diwrnod yn ffordd berffaith o dreulio amser o safon gyda'r teulu yn ystod gwyliau'r haf.

Dywedodd Claire a fynychodd y digwyddiad gyda'i phlant; “Mae'r digwyddiad yn ardderchog, mae'n hyfryd gweld y plant yn mwynhau eu hunain. Mae Melin yn wych.

"Ni allwn aros am y flwyddyn nesaf. Cadwch lygad am y dyddiad yn ystod gwyliau haf 2020!


Yn ôl i newyddion