Yep!
Yep! yw ein Prosiect Grymuso Pobl Ifanc, a gynlluniwyd i ysbrydoli a rhoi cyfle i bobl ifanc ddylanwadu ar y gwaith yr ydym yn ei wneud. Wedi'i ffurfio gan bobl ifanc i bobl ifanc, mae'r cyfan oll am ddim!
Os ydych chi rhwng 12 a 25 mlwydd oed, a'ch bod am leisio'ch barn, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.
- Mae'n gyfle i wneud ffrindiau newydd.
- Mae'n rhoi llais a chyfle i chi godi materion allweddol sy'n effeithio arnoch chi.
Pam ymuno â Yep?
- Mae'n brofiad gwych
- Rydych chi'n cael mentor a hyfforddiant
- Mae'n gyfle i wneud ffrindiau newydd
- Mae'n rhoi llais a chyfle i chi godi materion allweddol sy'n effeithio arnoch chi
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Bydd gennym ddau grŵp Yep:
Bydd pobl ifanc 12-17 oed yn:
- Darparu syniadau a ffyrdd newydd o edrych ar bethau
- Help gyda digwyddiadau cymunedol
- Creu eich blog ieuenctid eich hun ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
- Adolygu ein polisïau a'n gweithdrefnau
- Yn ein cynghori ynghylch y ffyrdd gorau i ddefnyddio cyfryngau a thechnoleg
- Adolygu papurau ein bwrdd
- Cael cyfleoedd i ymuno â'n Bwrdd
- Gweithredu fel llysgenhadon dros Melin
- Gweithio gyda sefydliadau sy'n bartneriaid
- Creu eich agendâu eich hun
- Diffinio'ch rolau a'ch pwrpas eich hun
- Cyhoeddi eich straeon Yep! yng nghylchgrawn ein trigolion, Newyddion Melin
Yep! Amdani! Beth sydd angen i mi ei wybod?
- Mae angen i chi ymrwymo i chwe chyfarfod y flwyddyn. Bydd y rhain ar ddydd Mercher, o 6pm
- Efallai y gofynnir i chi fynychu digwyddiadau sefydliadau sy'n bartneriaid a chynrychioli Melin
- Bydd gofyn i chi fynychu hyfforddiant
Sut ydw i’n ymgeisio?
Mae’n syml, dywedwch wrthym sut y byddech chi’n siwtio i’r dim ar gyfer Yep! Ac anfonwch eich enw a’ch oedran at yep@melinhomes.co.uk
Neu beth am wneud cais trwy, tagiwch ni (@yep.melin) mewn llun ohonoch chi’n defnyddio hashnodau #joinyep #yepmelin
Dilynwch ni ar Instagram @yep.melin
I gael y diweddariadau Yep! Diweddaraf dilynwch @MelinHomes ar Facebook a Twitter