Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Blwyddyn lwyddiannus arall i dîm Cyflogaeth Melin

Unwaith eto, mae ein Tîm Cyflogaeth deinamig wedi mwynhau blwyddyn brysur yn cefnogi trigolion Melin gyda chyfleoedd i hyfforddi, gweithio a sicrhau dyfodol mwy diogel. Mae effaith eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn drawsnewidiol i lawer o unigolion a theuluoedd ac yma rydym am arddangos rhai o straeon llwyddiant y tîm…

Ysgrifennwyd gan Will

09 Mai, 2024

Llun o pen a phapur gyda logo Cyngor Melin

Prif ystadegau

Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, helpodd ein Tîm Cyflogaeth ddwsinau o drigolion o gwahanol gefndiroedd a phob un â'u hamgylchiadau a’u dyheadau eu hunain ar gyfer y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys:

- Derbyn cyfanswm o 112 o atgyfeiriadau gan staff Melin a rhanddeiliaid eraill i gefnogi trigolion.

- Hwyluso 287 o ganlyniadau’n gysylltiedig â gwaith, yn cynnwys rhoi pob math o gymorth, fel cymorth cyflogadwyedd, profiad gwaith, cymwysterau a hyfforddiant.

- Cefnogodd y tîm 52 o bobl yn uniongyrchol i fyd gwaith â thâl.

Roedd y gwahanol gymorth a rhoddwyd gan y tîm yn ymwneud â llawer o wahanol feysydd cyflogaeth a hyfforddiant, gan gynnwys cymorth i ysgrifennu CVs, cymorth gyda hyfforddiant gyrru, darparu dillad gwaith/offer PPE a chymorth i ennill trwyddedau/cymwysterau sy’n cael eu cydnabod.

Cael trigolion i fewn i'r gweithle

Fel y crybwyllwyd, cafodd dros 50 o drigolion eu helpu i fyd gwaith cyflogedig ac mae'r tîm yn falch o'r ffaith ein bod wedi helpu trigolion i gael eu traed danynt mewn ystod o wahanol sectorau, felly’n helpu i gefnogi ein heconomi lleol.

Fe wnaethom helpu trigolion i ddod o hyd i swyddi yn y meysydd cyfrifeg, TG, adeiladu, iechyd a gofal, lletygarwch/arlwyo, gweithgynhyrchu, manwerthu, logisteg, diogelwch a mwy.

Enghreifftiau go iawn; Trigolion go iawn

Nid yw ystadegau a rhifau yn dweud y stori gyfan. Roeddem am rannu rhai enghreifftiau go iawn o’r drigolion yma ym Melin yr ydym wedi gweithio gyda nhw i ddarganfod cyfleodd newydd drwy fanteisio ar ein gwasanaethau…

Matthew, 53, Sir Fynwy

Trwy ymgysylltu â'r Tîm Cyflogaeth, fe lwyddodd Matthew i gael swydd 40 awr yr wythnos fel Rheolwr Cynnal a Chadw mewn clwb golff yn Rhaglan. Fe wnaethon ni helpu Matthew drwy roi talebau bwyd, talu costau teithio, a mwy, gan sicrhau bod ei daith yn ôl i fyd gwaith yn un esmwyth.

Diolch o waelod calon i Melin ac i Dafydd [Ymgynghorydd Cyflogaeth Melin] am y gefnogaeth rydw i wedi'i chael i ddychwelyd i fyd gwaith. Mae'r pethau rydych chi wedi'u rhoi ar waith i mi wedi gwneud y cam yn gwbl llyfn, ac rwy’n argymell y gwasanaeth yn fawr i’m cyd-drigolion.

Matthew — Trigolyn Melin

Emily, 48, Torfaen

Ar ôl bod yn ddi-waith am gyfnod byr, llwyddodd Emily i gael swydd llawn amser fel gweinyddwr cyllid yng Nghasnewydd. Cafodd Emily gefnogaeth hanfodol gan ein Tîm Cyflogaeth, yn cynnwys hyfforddiant Microsoft Excel a thalebau tanwydd. Fe wnaeth hyn helpu Emily i baratoi i wneud argraff gyntaf wych yn ei swydd newydd.

Yn ddiweddar fe wnes wynebu cyfnod o galedi ar ôl colli fy swydd, yn dilyn sawl blwyddyn o sefydlogrwydd. Yn dilyn galwad i Melin i roi gwybod am fy amgylchiadau a’r ffaith fy mod wedi colli fy swydd, cefais cymaint o gefnogaeth a oedd yn gwbl annisgwyl. […] Ni allaf ddiolch digon i aelodau'r tîm, ac yn syml, dim ond am wrando.

Emily — Trigolyn Melin

Nicola, 36 & Chad, 38, Torfaen

Mae gan gwpl priod, Nicola a Chad deulu ifanc ac maent wedi ceisio dod o hyd i waith a fydd yn cyd-fynd â phwysau bywyd teuluol.

Roedd Nicola, nad oedd yn gyrru, yn awyddus i ddechrau gweithio i ennill arian i gefnogi'r teulu. Gyda chymorth y Tîm Cyflogaeth, cafodd swydd llawn amser fel cynorthwyydd yn gweithio yng nghegin Secret Garden. Mae’r amgylchedd gwaith yn siwtio Nicola i’r dim, gan gynnig hyblygrwydd o amgylch oriau ysgol ei phlant ac ymrwymiadau eraill.

Mae Nicola’n teimlo’n uchelgeisiol iawn am y dyfodol, felly mi fydd y Tîm Cyflogaeth yn ariannu gwersi gyrru iddi ac yn talu am ei phrawf theori, a fydd yn ei galluogi i gael mwy o ryddid i archwilio cyfleoedd gwaith a hyfforddi yn y dyfodol.

Llun o ddynes yn ei lolfa
Mae Nicola o Dorfaen wedi datblygu ei gyrfa gyda Cyngor Melin

Yn y cyfamser, daeth Chad o hyd i waith fel saer coed gyda chwmni lleol. Wedi'i gyflogi i ddechrau ar gontract dros dro, llwyddodd Chad i gael swydd barhaol, diolch i’w berfformiad cryf. Mae Chad yn mwynhau'r gwaith ac yn rhan o dîm cefnogol.

Fe wnaethom gefnogi’r teulu i drosglwyddo i fyd gwaith drwy gynnig talebau bwyd, talebau siopa i brynu dillad gwaith, talebau tanwydd ac atgyfeiriad at y banc bwyd. Mae'r cymorth hwn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r teulu.

Byddaf yn ddiolchgar am byth i bawb ym Melin, yn enwedig Dafydd, oherwydd hebddo, ni fyddem wedi gallu symud ymlaen mewn bywyd, ac nid yn unig yr help gyda phethau materol, ond yr help aruthrol gyda fy iechyd meddwl gan nad oes angen i ni boeni mwyach.

Nicola — Trigolyn Melin

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld