Yn ôl i newyddion

Nwy – Arhoswch yn Ddiogel

Mae cadw eich cartref yn ddiogel yn bwysig iawn.

Ysgrifennwyd gan Marcus

02 Meh, 2017

arhoswch-yn-ddiogel

Mae cadw eich cartref yn ddiogel yn bwysig iawn. Os nad yw offer nwy yn cael ei osod a’i wasanaethu yn gywir, gall achosi problemau.

Mae holl beirianwyr Melin ar y Gofrestr Diogelwch Nwy; rhestr o beirianwyr nwy sy’n cael gweithio’n gyfreithlon ar offer nwy.

Mae’n bwysig eich bod yn trefnu eich gwasanaeth nwy blynyddol gyda ni er mwyn cadw eich cartref yn ddiogel.

Byddwch yn derbyn llythyr gennym pan fydd yn amser am eich gwasanaeth nwy, er mwyn i chi fedru cysylltu â ni i’w drefnu. Medrwch gysylltu gyda ni ar y ffôn, ebost, sgwrsio byw, neges testun neu ar Facebook. Unwaith y byddwch wedi trefnu, gwnewch yn siŵr eich bod adref ar y dyddiad a’r amser a gytunwyd; medrwch adael y gweddill i ni.

Os na fyddwch ar gael, gadewch i ni wybod er mwyn i ni fedru trefnu dyddiad arall sy’n gyfleus i chi.


Yn ôl i newyddion