Yn ôl i newyddion

Aur yw popeth melyn

Mae Llywodraeth Cymru newydd ail-ddyfarnu ein Safon Iechyd Corfforaethol Aur a Phlatinwm i ni. Mae'r Safon Iechyd Gorfforaethol yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru 'Cymru Iach sy'n Gweithio' a dyma'r marc ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle. Fe'i cyflwynir mewn categorïau efydd, arian, aur a phlatinwm i sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector sy'n mynd ati i hyrwyddo iechyd a lles eu gweithwyr. Dim ond 15 Sefydliad sydd wedi ennill y wobr Platinwm yng Nghymru, ac rydym wrth ein bodd i fod yn un ohonynt.

Ysgrifennwyd gan Fiona

04 Meh, 2018

Treuliodd yr aseswyr ddau ddiwrnod yn cyfweld â staff gan ddweud bod; " yr angerdd dros iechyd a lles ar draws y sefydliad a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn gwbl amlwg."

Roedd yr adborth a ddarparwyd yn amlygu meysydd a gafodd yr argraff fwyaf ar yr aseswyr;

Mae diwylliant Iechyd a Lles yn ddi-dor,
Mae gan uwch aelodau staff a'n Bwrdd ymrwymiad cryf,
Brand 'Zest' yw'r gorau a welwyd erioed,
Mae cyfranogiad y staff yn wych, yn enwedig y staff nad ydynt wedi'u lleoli yn y swyddfa,
Rydym wedi gwneud yn hynod o dda i gadw popeth yn ffres ac yn fyw dros y chwe blynedd diwethaf ers ein hachrediad gwreiddiol,
Maent am boteli'r hyn sydd gennym ni!

Dywedodd Paula Kennedy, ein Prif Weithredwr: "Mae gwaith caled ein staff wedi talu ar ei ganfed unwaith eto. Drwy greu amgylchedd positif, diogel ac iach i'n staff, rydym wedi cynyddu morâl staff, lleihau trosiant a dangos ein cyfrifoldeb corfforaethol i'r gymdeithas ehangach. Mae gweithwyr hapus ac iach yn arwain at gwsmeriaid hapusach."

Yn ôl i newyddion