Yn ôl i newyddion

Mis Derbyn Awtistiaeth 2023

Mae mis Ebrill yn Fis Derbyn Awtistiaeth. Mae’r mis hwn yn bodoli er mwyn dathlu cyfraniadau positif pobl awtistig at ein ymdeithas. Mae hefyd yn bodoli er mwyn cael pob un i feddwl yn wahanol am sut y gallwn ni sicrhau bod ein cymdeithas yn fwy hygyrch i bobl awtistig ac yn derbyn gwahaniaethau niwrolegol yn well.

Ysgrifennwyd gan Fiona

19 Ebr, 2023

Llun o Will a'i fab Patric

Mae gan Fis Derbyn Awtistiaeth sawl diben:

.• Mae’n gyfle i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth. Mae pobl yn dal i gamddeall beth yw awtistiaeth ac mae’r mis hwn yn gyfle i bobl ddysgu mwy am awtistiaeth a phobl awtistig.

• Mae’n gyfle i sicrhau bod pobl awtistig yn cael eu derbyn yn well. Mae llawer o bobl awtistig yn cael eu hallgau am nad yw pobl yn gyffredinol yn deall digon am awtistiaeth. Felly, mae Mis Derbyn Awtistiaeth yn galw ar gynghreiriaid awtistig i wneud mwy i gynnwys pobl awtistig yn y gymdeithas ac yn y gweithle.

• Mae’n gyfle i ddathlu cydweithwyr awtistig. Trwy ddathlu modelau rôl awtistig mae’n gymorth i gael pobl i dderbyn pobl awtistig yn well ac i wella dealltwriaeth y cyhoedd am eu profiadau.

Beth ydy Awtistiaeth? Ffilm byr gan y National Autistic Society (Saesneg)

Beth ydy awtistiaeth?

Anabledd datblygiadol yw anhwylder sbectrwm awtistig (ASD) a gwahaniaethau yn yr ymennydd sy’n ei achosi. Yn aml, mae pobl sydd ag ASD yn cael anawsterau gyda chyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, ac maen nhw’n arddangos ymddygiadau neu ddiddordebau cyfyngedig neu ailadroddus. Efallai y bydd pobl ag ASD yn dysgu, yn symud neu’n canolbwyntio mewn ffordd wahanol.

Anabledd datblygiadol gydol oes yw Awtistiaeth ac mae’n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’r byd. Mae mwy nag un o bob 100 o bobl ar y sbectrwm awtistiaeth a thua 700,000 o oedolion a phlant awtistig yn y Deyrnas Unedig.

Stori Will

Mae aelod o’n staff, Will, wedi bod yn ddigon caredig i rannu stori ei deulu gyda ni...

"Mae gen i a fy ngwraig ddau fachgen o’r enw Tomos a Patric, sy’n 4½ ac yn 2½ oed. Mae plentyndod cynnar Tomos wedi bod yn ddigon nodweddiadol ac mae’n dod ymlaen yn dda yn ein hysgol ddwyieithog leol yng Nghaerffili. Fodd bynnag, ry’n ni wedi cael profiad gwahanol iawn gyda Patric ni, a gafodd ddiagnosis ffurfiol o anhwylder sbectrwm awtistig (ASD) ym mis Mawrth. Roedden ni eisiau rhannu ein stori yn ystod Mis Derbyn Awtistiaeth eleni, er mwyn dangos siwrnai awtistig Patric a sut y gall edrych ymlaen at ddyfodol disglair iawn diolch i’r gefnogaeth iawn.

"Ganed Patric yn ystod y pandemig (Awst 2020) ac, i ddechrau, roedd popeth yn mynd yn ôl y disgwyl. Roedd yn fabi nodweddiadol ac wrth dyfu’n blentyn bach roedd yn datblygu yn ôl yr arfer. Pan oedd tua 15-18 mis, fe ddechreuon ni sylwi ar rai newidiadau a gwahaniaethau yn ymddygiad Patric. Dim byd dramatig, ond roedd yn dueddol o osgoi cyswllt llygaid, ac er y byddai’n goddef sefyllfaoedd cymdeithasol roedd yn dueddol o gymryd ei hun i ffwrdd oddi wrth bobl eraill. I ddechrau, roedden ni’n credu efallai mai diffyg cymdeithasoliad yn ystod y pandemig oedd yn gyfrifol, ac roedden ni, a phobl eraill, yn aml yn dweud yn ysgafn ‘o wel, mae e’n fabi COVID’ gan fod y pandemig wedi llesteirio datblygiad llawer o blant."

Llun o Patric a'i fam
Patric a'i fam, Vivienne

"Fodd bynnag, wrth i amser fynd yn ei flaen, daeth rhai o arwyddion nodweddiadol ASD yn gliriach gyda Patric. Dechreuodd gerdded ar flaen bysedd ei draed, rhedeg i fyny ac i lawr ystafelloedd, ac nid oedd wedi dechrau siarad eto. Roedd hefyd yn chwarae gyda theganau mewn ffordd ailadroddus: yn pentyrru cwpanau, yn adeiladau tyrau o friciau ac yn pori trwy lyfrau am gyfnodau estynedig o amser. Fel arfer, byddai ymwelydd iechyd yn dod i weld plentyn yn 27 mis oed, ond fe ofynnon ni i’n hymwelydd iechyd ni ein gweld ni’n gynnar, yn 20 mis oed. Gwnaeth asesiad cyffredinol o Patric a gweld ei fod ar ei hôl hi mewn ambell faes datblygiadol, â’r rheiny’n ymwneud â sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol gan fwyaf.

"Arweiniodd hyn at yr hyn a elwir yn atgyfeiriad ‘ISCAN’, lle mae nifer o asiantaethau yn mynd trwy ei nodiadau ac yna’n atgyfeirio er mwyn cael y cymorth y gallai fod arno ei angen. Dechreuodd sesiynau byr mewn meithrinfa sy’n asesu a dechreuodd sesiynau chwarae a oedd wedi eu cynllunio’n arbennig i helpu Patric a ni i ddod o hyd i strategaethau newydd a ffyrdd newydd o chwarae. Mae Patric wedi ffynnu yn sgîl yr ymyriadau hyn, ac mae ganddo fwy o ddewis o ddulliau chwarae (er, mae ganddo ei ffefrynnau o hyd!) ac mae wedi gwella’i gyswllt llygaid.

"Mae pob un sydd wedi gweithio gyda Patric wedi bod yn arsylwi ar Patric a’i ymddygiadau yn ofalus a rhoddwyd yr holl wybodaeth hon i’n pediatrydd ymgynghorol lleol. Aethom i gyfarfod ag ef ac er ein bod ni’n disgwyl cael diagnosis o ASD yn y pendraw, roedden ni’n synnu ein bod ni wedi cael diagnosis ar unwaith. Roedd hyn yn bosibl diolch i’r gefnogaeth ry’n ni wedi ei chael gan y gwasanaethau plant lleol a’r cyfathrebu da rhwng asiantaethau."


Nawr, â ninnau wedi cael diagnosis ffurfiol, ry’n ni’n teimlo lawer yn fwy hyderus wrth iddo ddechrau yn y Meithrin fis Medi yn yr un ysgol â’i frawd. Mae’r meddyg ymgynghorol yn teimlo’n bositif iawn y bydd Patric yn penderfynu datblygu cyfathrebu llafar yn y pendraw ac y bydd yn gallu cael addysg brif ffrwd.

Will — Melin Homes

"Mae’r broses hon wedi golygu llawer o ddysgu a thorchi llewys, yn enwedig i fam Patric, sydd wedi bod ymhob cyfarfod a sesiwn ac wedi bachu ar bob cyfle a roddwyd i ni. Yn wobr am y gwaith caled, cawsom ddiagnosis sydyn ac eglurder ynghylch y ffordd ymlaen i ni.

"Ry’n ni’n ffodus iawn fod Patric wedi cael cefnogaeth wych a bod ei brognosis yn bositif iawn. Ry’n ni’n sylweddoli na fydd pob rhiant yn y sefyllfa hon. Wrth gwrdd â phlant eraill yn sesiynau Patric ry’n ni’n gweld yn glir fod pob plentyn yn wahanol a bod ASD yn gallu amlygu mewn llawer o ffyrdd gwahanol.

"Buasem yn annog unrhyw un sydd â phlentyn yr ydych yn pryderu amdanynt, i gael cyngor ac i wneud popeth sydd o fewn eich gallu i ymgysylltu’n llwyr â’r gefnogaeth a gynigir. Mae’n gallu bod yn anodd ffitio popeth i mewn i’ch bywyd bob-dydd, gyda chyfarfodydd a sesiynau ychwanegol, ond mae wir yn talu ar ei ganfed. Rydw i wedi gweld â fy llygaid fy hun sut y mae annog ffyrdd gwahanol o chwarae yn gallu gwella sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu a sut y mae’r rhyngweithio lleiaf yn gallu bod mor werth chweil.

"Mae Patric yn fachgen bach serchus, egnïol a hamddenol sydd wrth ei fodd allan yn yr awyr agored yn archwilio. Efallai bod ganddo ASD, ond nid yw hynny’n gwneud gwahaniaeth o gwbl - Patric yw e’ ar ddiwedd y dydd. Wrth iddo fynd yn hŷn bydd yn darganfod diddordebau newydd a, bob yn dipyn, bydd y rhain yn annog ac yn datblygu ei sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol. Fe fydd yn dilyn ei frawd i mewn i addysg ddwyieithog ac yn trïo ei orau glas - yn ôl yr astudiaethau mae dwyieithrwydd yn gallu bod yn wych, hyd yn oed i blant ag anawsterau cyfathrebu.

"Rwy’n sylweddoli fy mod i wedi paentio darlun hardd iawn yn y fan hon, ond nid yw pethau wedi bod yn fêl i gyd. Mae wedi bod yn siwrnai ddyrys i’r emosiynau wrth i ni holi’r pam, y beth a’r sut am gyflwr Patric. Mae’n cymryd amser i gyrraedd man lle ry’ch chi’n derbyn pethau, ac mae trafod gydag aelodau o’r teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol yn gymorth gyda hyn. Mae rhai agweddau ar yr ymddygiad yn gallu bod yn anodd (ry’n ni’n ffodus fod Patric yn eithaf hamddenol) ond fel gydag unrhyw blentyn, amynedd yw’r allwedd.

"Ry’n ni mor gyffrous i weld sut y bydd Patric yn dod yn ei flaen dros yr ychydig fisoedd nesaf, gan arwain at leoliad llawn-amser yn y Meithrin. Bydd yna gwestiynau o hyd, a phryderon ynghylch y dyfodol, ond gyda chefnogaeth barhaus y gwasanaethau, yr ysgol, y gwaith a’r teulu/ffrindiau, ry’n ni’n gwybod y bydd popeth yn iawn yn y pendraw. Rydw i wedi cael fy mendithio gyda dau fachgen bach hyfryd sy’n werth y byd i gyd ac sy’n gwneud i mi wenu bob dydd."

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld