Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Helpu'r rhai sydd fwyaf mewn angen

Bob blwyddyn rydym yn dathlu ein staff a'u cyflawniadau gyda digwyddiad i ddweud diolch - Y thema eleni oedd Amser i Ddathlu. Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig iawn i ni yma ym Melin, am eu bod yn rhoi cyfle i ni ddod â'n holl staff ynghyd, sy'n wych o ran ymgysylltu â staff a’r darlun ehangach – y rheswm yr ydyn ni’n gwneud yr hyn i ni’n ei wneud.

Ysgrifennwyd gan Fiona

10 Gorff, 2024

Grwp o bobl cael hwyl a sbri

Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig, cydnabod staff sydd wedi mynd cam ymhellach drwy ein gwobrau ‘Arwyr Tai’, a gweithgaredd adeiladu tîm yn canolbwyntio ar gefnogi elusennau i’r digartref. Mwynhaodd y timau amrywiaeth o dasgu difyr ond heriol, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ‘ennill’ bwyd nad yw’n ddarfodus, a hanfodion i lenwi eu bagiau. Rydym wrth ein bodd â ‘difyrrwch dan orfodaeth’ ym Melin a rodd yr heriau gyfle i dimau gydweithio a dangos sgiliau arwain cadarn, gan gyfathrebu a gwneud penderfyniadau rhagorol, a’r cyfan am resymau werth chweil.

Llun o’r staff yn y digwyddiad

Mae'r cyfan ar gyfer yr elusennau

Ar ddiwedd yr her, roedd gennym 26 bag dan eu sang, yn llawn eitemau hanfodol newydd sbon a rhoddwyd hwy i’n partneriaid yn y Wallich a Llamau sy’n helpu pobl sy’n wynebu digartrefedd.

Dwy fenyw sefyll gyda bagiau
Llun o staff y Wallich yn casglu'r bagiau

Diolch yn fawr iawn am rodd mor ystyriol ac urddasol. Ni allwch ddychmygu'r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar y rhai sy’n defnyddio’n gwasanaeth. Byddant ar ben eu digon bod cwmni wedi cymryd yr amser i lenwi’r bagiau a chyfrannu’r fath eitemau newydd, hanfodol nad ydynt yn darfod. Bydd cael bag i gadw'r holl eiddo gyda'i gilydd ynddo’i hun, o fudd i bobl, ond mae cael bagiau’n llawn offer ymolchi a dillad glân wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.

Kath Moore — Rheolwr Ardal y Wallich yng Ngwent
Dwy fenyw sefyll yn swyddfa Melin gyda bagiau
Llun Gartrefi Melin yn cyfrannu’r bagiau i Llamau

Diolch i Gartrefi Melin am gyfrannu’r bagiau. Byddwn yn eu rhoi i rai o’r bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi yn ein gwyliau ymgysylltu dros yr haf. Rhodd amserol yn wir!

Denise Kennedy — Rheolwr Partneriaeth Gorfforaethol, Llamau

Lluniau o'r dydd

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld