Yn ôl i newyddion

Awgrymiadau ar sut i arbed arian ar gyfer y Nadolig

Iawn, mae Calan Gaeaf a noson Tân Gwyllt i ddod eto, ond nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am y Nadolig! Rydym wedi cynhyrchu awgrymiadau ar arbed arian gan y gall fod yn gyfnod anodd a drud yn y flwyddyn.

Ysgrifennwyd gan Fiona

27 Hyd, 2017

Awgrymiadau ar sut i arbed arian ar gyfer y Nadolig
Iawn, mae Calan Gaeaf a noson Tân Gwyllt i ddod eto, ond nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am y Nadolig!

Rydym wedi cynhyrchu awgrymiadau ar arbed arian gan y gall fod yn gyfnod anodd a drud yn y flwyddyn.

Gwnewch gynllun a chyllideb a glynwch atynt! Dim ond un diwrnod yw’r Nadolig, felly peidiwch â mynd i drafferthion am y flwyddyn gyfan trwy orwario. Ewch i wefan Money Advice i gwblhau’r cynlluniwr fel bod gennych syniad o’ch cyllideb.
Pam na wnewch anrhegion Nadolig i bobl a chardiau Nadolig hefyd? Gall y plant helpu! Medrwch wneud eich siocled eich hun, addurno cacen, rhoi basgedi nwyddau at ei gilydd. Mae llawer iawn o syniadau, ac fe gawsom ni hyd i rai cŵl iawn ar Pinterest.
Cadwch y biliau ynni i lawr trwy aros yn gynnes gyda haenau o ddillad a gwneud yn siŵr nad oes drafftiau yn eich cartref. Mae ein Swyddog Cyngor ar Ynni yma i’ch helpu i wneud yn siŵr eich bod ar y tariff gorau a rhoi archwiliad ynni cartref i chi! Ffoniwch ni a gofynnwch am Dave, y Swyddog Cyngor ar Ynni yn y tîm Incwm a Chynhwysiant.
Newidiwch gyfrifon banc mewn pryd ar gyfer y Nadolig; mae rhai yn cynnig arian i chi fancio gyda nhw. New awgrymwch ffrind – medrwch gael gwobr am wneud hynny!
Peidiwch â chael eich temtio i fenthyg gan siarcod benthyca. Ydych chi wedi ystyried Undeb Credyd? Maent yn cynnig amrywiol fenthyciadau, sydd ond yn codi llog ar falans y benthyciad (nid y benthyciad cyfan), heb unrhyw gostau cudd. Edrychwch ar wefan Undebau Credyd Cymru i gael gwybod mwy.
Angen arian ychwanegol ar gyfer y Nadolig? Cliriwch bethau allan a chael gwared â phethau nad ydych eu hangen neu y medrwch eu gwerthu. Mae nifer o safleoedd arlein ar gyfer gwerthu, neu efallai byddai stondin mewn arwerthiant cist car yn syniad.
Edrychwch ar wefannau arbed arian i gael y bargeinion diweddaraf.

Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r Nadolig, a chofiwch – mae atgofion yn para oes, ac ni fedrwch brynu’r rheini!

Os ydych angen help pellach a chyngor ar arian, cysylltwch â’n tîm Incwm a Chynhwysiant; maent oll wedi eu hachredu. Cofiwch nad ydych ar ein pen eich hun - mae ein tîm Incwm a Chynhwysiant yma i’ch helpu.

Medrwn eich helpu gyda:
Cyngor proffesiynol rhagorol ar Fudd-daliadau, gan gynnwys y Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) a’r Cap Budd-daliadau;
Help gyda llunio cynlluniwr arian; bydd hyn yn eich helpu gyda chyllidebu a medrwn hyd yn oed roi cyngor i chi ar sut i gynyddu eich incwm;
Help gyda dyledion ynni a chyngor;
Help gyda cheisiadau grant ar gyfer pethau fel peiriannau golchi a rhewgelloedd/oergelloedd;
Cymorth gyda thribiwnlys neu ail-ystyried apeliadau budd-dal;
Help i agor cyfrif banc neu gyfrif cynilion neu gymorth digidol;
Rhoi Talebion Banc Bwyd i chi, fel nad ydych yn gorfod dewis rhwng gwres a bwyd.

Ffoniwch ni ar 01495 745910 neu e-bostiwch ein tîm Incwm a Chynhwysiant.

Yn ôl i newyddion