Yn ôl i newyddion

Beth yw 100 o Leisiau?

Mynychodd gwirfoddolwyr o’n grŵp adborth preswylwyr “100 o Leisiau” Gynhadledd Denantiaid Genedlaethol TPAS Cymru ym Mhowys lle cynhwyswyd eu barn nhw ar flaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru mewn trafodaeth banel. Rydym wrth ein boddau bod ein trigolion yn rhan o’r sgwrs am wasanaethau ym Melin a thu hwnt.

Ysgrifennwyd gan Sam

16 Rhag, 2019

Mae 100 o Leisiau yn grŵp o drigolion sy’n rhoi adborth i ni er mwyn i ni fedru datblygu ein gwasanaethau i sicrhau eu bod yn fwy addas i’w hanghenion.
Mae cynrychiolwyr 100 o Leisiau hefyd wedi ffurfio tri grŵp mwy ffurfiol sy’n cyfarfod yn rheolaidd yn ein swyddfeydd. Y grwpiau hyn yw: grŵp Gwasanaethau Cwsmeriaid, grŵp anabledd a’r grŵp Cymunedau.
Os hoffech chi fod yn rhan o’r grŵp hwn a chael lleisio eich barn, ebostiwch ni yn communities@melinhomes.co.uk neu ffoniwch a siarad gyda’r Tîm Cymunedau ar 01495745910.

Yn ôl i newyddion