Yn ôl i newyddion

Cadeirydd Newydd y bwrdd wrth i Margaret Spencer ymddeol

Newyddion gan ein bwrdd yr wythnos hon, wrth i Christine Edmondson gymryd lle Margaret Spencer fel Cadeirydd.

Ysgrifennwyd gan Valentino

07 Chwef, 2017

Cadeirydd Newydd y bwrdd wrth i Margaret Spencer ymddeol
Newyddion gan ein Bwrdd yr wythnos hon, wrth i Christine Edmondson gymryd lle Margaret Spencer fel Cadeirydd. Mae Margaret wedi ymddeol ar ôl 14 mlynedd fel cyfranddaliwr, ac mae ei hymagwedd ddi-ffael o ran craffu, a'i hymrwymiad i lwyddiant y sefydliad wedi ein galluogi i ffynnu dros y blynyddoedd y mae hi wedi bod yn ymwneud â'n bwrdd. Dymunwn ymddeoliad iach a hapus i Margaret. Mae Christine wedi bod ar ein bwrdd ers 2011 ac mae'n symud i rôl Cadeirydd o'i rôl flaenorol fel Is-gadeirydd.

Nid oes amheuaeth bod y sector tai cymdeithasol yn cael effaith fawr ar fywydau miloedd o bobl ar draws y wlad, bob dydd. Nid oes unrhyw amheuaeth hefyd bod y bobl ar fyrddau'r cyrff hyn yn gwneud penderfyniadau sydd yn creu effaith gadarnhaol â hirbarhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gallwch fod yn rhan ohono trwy ymuno â'n bwrdd; darganfyddwch mwy ar wefan ein bwrdd ynghylch sut y gallech chi gymryd rhan.

Yn ôl i newyddion