Yn ôl i newyddion

Cadw eich cartref yn ddiogel y gaeaf hwn

Cadw eich cartref yn ddiogel y gaeaf hwn

Ysgrifennwyd gan Marcus

26 Hyd, 2017

Cadw eich cartref yn ddiogel y gaeaf hwn
Os byddwch yn cael problem gyda’r trydan yn eich cartref, ffoniwch ni. Yr unig beth a ofynnwn yw eich bod yn edrych ar ambell beth cyn ffonio, gan gynnwys:

Trydan

· Edrychwch i weld os yw’r trydan wedi mynd yn llwyr, ynteu dim ond y goleuadau neu’r socedi sydd wedi stopio gweithio.

· Os yw’r trydan wedi mynd yn llwyr – mater i’r cyflenwr fydd hyn ac mae’n werth holi’r cymdogion i weld os yw eu goleuadau nhw yn gweithio.

· Os mai’r bylbiau golau yn unig yw’r broblem, ceisiwch newid y bylbiau. Os nad yw newid bylb yn gweithio, bydd angen i ni ddod allan i’ch gweld.

· Os mai’r socedi yw’r broblem, edrychwch i weld beth roeddech yn ei ddefnyddio pan aeth y pŵer allan. Bydd angen profi’r cyfarpar a dad-blygio pob dyfais yn ei thro gan gynnwys nwyddau gwynion. Yna plygiwch bob dyfais yn ôl fesul un i weld beth sy’n achosi’r broblem.

Mae’n bosib y byddwn yn codi tâl arnoch os nad ydych yn ymgymryd â’r profion hyn a byddwn yn dod allan i’ch gweld.

Yn ôl i newyddion