Yn ôl i newyddion

Candleston yn Ymuno â Lovell i noddi CPD Portskewett and Sudbrook

Mae Candleston Homes wedi partneri â Lovell i noddi clwb pel droed ger ein cymuned newydd, Parc Elderwood, ym Mhorthskewett, Sir Fynwy.

Ysgrifennwyd gan Will

12 Mai, 2023

Llun o staff Candleston gyda aelodau'r clwb pel droed.

Mae Candleston Homes wedi ymuno â Lovell i noddi clwb pêl-droed yn agos i ddatblygiad Elderwood Parc ym Mhorthsgiwed, Sir Fynwy.

Mae Clwb Pêl-droed Portskewett and Sudbrook yn glwb i blant iau, a sefydlwyd yn 2019, ac sy’n chwarae yng Nghynghreiriau Sir Fynwy. Mae’r clwb yn cael ei redeg yn bennaf gan wirfoddolwr brwd gan fod teulu a chymuned wrth galon eu cenhadaeth.

Cyfrannodd Candleston Homes a Lovell at noddi crysau ymarfer newydd i’r chwaraewyr dan bump, chwech a saith oed. O ganlyniad i’r nawdd yma, bydd logos Candleston a Lovell nawr yn ymddangos ar y crysau ymarfer newydd.

Mae Candleston, is-gwmni Cartrefi Melin, yn frwd dros gefnogi mudiadau gwirfoddol lleol yn y cymunedau y mae’n eu hadeiladu. Trwy gefnogi mudiadau fel Clwb Pêl-droed Portskewett and Sudbrook, mae Candleston yn helpu eu cymunedau newydd i ddod yn fyw.

Dywedodd Scott Rooks, Cyfarwyddwr Masnachol Candleston Homes: “Rydym yn falch iawn o fod yn darparu crysau hyfforddi i’r plant, mae gweithio gyda’r clwb lleol ar y prosiect yma wedi’n galluogi ni i roi prosiectau etifeddiaeth cymunedol fel hwn wrth galon pob dim a wnawn. Mae gweld wynebau’r plant wrth i ni gyflwyno’r crysau’n cadarnhau pam ein bod ni’n cefnogi prosiectau fel hyn. Hoffem ddiolch i Lovell am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i’r prosiect ac rydym yn edrych ymlaen at y prosiect nesaf yn y gymuned leol.”

Dywedodd Jamie Grannell, ysgrifennydd CPD Portskewett and Sudbrook: “Mae Clwb Pêl-droed Ieuenctid Portskewett and Sudbrook yn ddiolchgar dros ben i Candleston Homes a Lovell am eu cyfraniad hael i’n gwaith yn y cymunedau lleol. Rydym yn ymfalchïo mewn datblygu perthnasau cryf gyda busnesau yn ein hardal leol er mwyn rhoi profiad pêl-droed o ansawdd i blant yn ein clwb.

O ganlyniad uniongyrchol i greu’r perthnasau yma, rydym yn lleihau’r angen i rieni ariannu’r cyfan trwy gyfraniadau. Mae hyn yn ffactor yn yr hyn yr ydym yn ei wneud fel clwb, ni yw’r unig glwb yn Sir Fynwy i gynnig pêl-droed cymorthdaledig ac am ddim i blant hyd at wyth oed. Rydym yn hynod o falch o fod y clwb sy’n tyfu cyflymaf yn yr ardal, o 40 aelod yng Ngorffennaf 2021 i dros 175.

Jamie Grannell — CPD Portskewett and Sudbrook

Dywedodd Gemma Clissett, cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol yn Lovell: “Yn Lovell, rydym wir yn mwynhau dod i adnabod y cymunedau yr ydym ni’n adeiladu ynddynt a phan fo cyfle i gefnogi prosiectau cymunedol fel hyn, rydym yn fwy na bodlon cymryd rhan.”

Mae datblygiad Elderwood Parc, ar Crick Road, yn cynnwys 269 o gartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu gan Lovell fel cynllun dylunio ac adeiladu ar ran Candleston Homes.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld