Yn ôl i newyddion

Canolfan Gofalwyr Torfaen - ailwampio

Mae’r Ganolfan Gofalwyr ym Mhont-y-pŵl â golwg newydd iddi a chyfarpar newydd, diolch i grant Cronfa Gofal Canolradd oddi wrth Melin, Wales and West Utilities a Dulux.

Ysgrifennwyd gan Sam

04 Ebr, 2017

Canolfan Gofalwyr Torfaen - ailwampio
Mae’r Ganolfan Gofalwyr ym Mhont-y-pŵl â golwg newydd iddi a chyfarpar newydd, diolch i grant Cronfa Gofal Canolradd oddi wrth Melin, Wales and West Utilities a Dulux.

Roedd Cydlynydd y Ganolfan Louise Alderman-Hook yn hynod falch o’r help a gafodd i ail-wampio’r ganolfan sy’n cael ei ddefnyddio gan dros 100 o ofalwyr a’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.

Mae gan y Ganolfan nawr i weld yn olau ac y braf diolch i waith caled Louise ac 14 o aelodau staff Wales and West Utilities a rhoddodd o’u hamser i sgrwbio, paentio ac adeiladu dodrefn. Rhoddodd y paent, daeth y carpet a’r llawr newydd oddi wrth Freemanz a rhoddodd Melin help gyda’r gwaith adnewyddu, gan greu gofod newydd i’r gegin a chynorthwyo gyda’r addurno. Mae’r ganolfan wedi elw hefyd o garpedi newydd chelfi newydd.

Mae gan yr adeilad ofod arbennig i ofalwyr ifanc, gan roi lle iddyn nhw i gwrdd a threulio amser i ffwrdd o bwysau goflau am eu teuluoedd. Mae ystafell dawel a oedd unwaith yn llawn dodrefn sbâr a hen gyfarpar, nawr yn teimlo’n gartrefol ac mae’n lloches ar gyfer cynghori neu’n ofod i ymlacio a chymryd stoc. Mae’r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys dosbarthiadau celf a thriniaethau cyflenwol yn ogystal â gwahanol grwpiau fel y sesiwn galw-i-mewn boblogaidd ar gyfer pobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr.

Cafodd staff Wales and West Utilities eu cyffwrdd gymaint gan y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y Ganolfan Gofalwyr nes iddyn nhw roi eitemau eraill hefyd gan gynnwys gliniadur newydd a chamera, glanhawyr llwch, tegell a thostiwr. Cymerodd y staff amser hefyd i wau myfflau troi - i ymlacio dwylo prysur y rheiny sy’n byw â dementia.

Dywedodd Rheolwr Estyniad y Rhwydwaith i Wales and West Utilities: “Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig i weld pawb yn tynnu gyda’i gilydd ac yn cyflawni cymaint dros achos mor dda.”

Dywedodd Louise Alderman Hook: “Rydw i wedi fy nghyffwrdd gan ymdrechion pawb ac mae’r bobl sy’n defnyddio’r ganolfan yn hynod o falch o weld golwg y lle ac maen nhw hefyd wedi’u cyffwrdd gan yr haelioni”

Os ydych chi’n gofalu am rywun ac am ddysgu sut gall y Ganolfan eich helpu, cysylltwch â Louise ar 01495 753838 neu ewch i’r wefan.

Yn ôl i newyddion