Yn ôl i newyddion

Cartrefi Melin yn cyrraedd safle 37 ymhlith y 100 sefydliad gorau i weithio iddo yn y DU

Rydym wedi cyrraedd safle 37 yn rhestr 100 uchaf y sefydliad dielw gorau i weithio iddo yn 2017, yn ôl y Sunday Times.

Ysgrifennwyd gan Marcus

23 Chwef, 2017

Cartrefi Melin yn cyrraedd safle 37
Rydym wedi cyrraedd safle 37 yn rhestr 100 uchaf y sefydliad dielw gorau i weithio iddo yn 2017, yn ôl y Sunday Times. Gwnaed y cyhoeddiad mewn seremoni wobrwyo yn Llundain yr wythnos hon, ac rydym wedi cyflawni achrediad 1-seren am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae cyrraedd safle 37 yn gwella ar safle 53 y llynedd, gyda'r canlyniadau'n cael eu llunio yn dilyn arolwg staff i gael eu barn ar ba fath o weithle yw Melin, yn ogystal â chyflwyniad ehangach gan y sefydliad parthed ei genhadaeth a'i gyrchnodau.

Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin; “Mae cyrraedd safle 37 yn y DU yn gyflawniad gwych yr ydym yn ymfalchïo ynddo yn fawr iawn. Yr wyf innau yn bersonol yn ymfalchïo’n fawr yn nhîm Melin oherwydd y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud. Mae'r gwobrau hyn yn wirioneddol bwysig i'r tîm arweinyddiaeth ym Melin am eu bod yn cael eu cyflwyno ar sail y ffordd y mae'r staff yn teimlo o ddifri am eu gweithle ac yn adlewyrchu'r ffaith bod Melin yn lle gwych i weithio. Dyma'r drydedd flwyddyn yn unig i ni gystadlu yn y gwobrau hyn ac mae neidio 16 lle i mewn i'r 40 uchaf yn y wlad yn dystiolaeth o holl waith caled ein staff a'r diwylliant hapus a chadarnhaol sydd gennym yma."

Mae rhai o'r canlyniadau a ddaeth i'r amlwg yn yr arolwg staff yn cynnwys; 92% o'r staff yn cytuno bod Melin 'yn annog gweithgareddau elusennol' (7fed yn y DU yn gyffredinol), 86% yn teimlo bod gan Melin 'gydwybod gymdeithasol gryf', 81% o bobl yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gweithio i Melin a 82% o bobl yn teimlo bod ' egwyddorion moesol cadarn yn sail i'r ffordd y mae Melin yn cael ei rhedeg'.

Yn ôl i newyddion