Yn ôl i newyddion

Cartrefi Melin yn nodi carreg filltir gyda’r 4,000fed cartref

I nodi adeiladu ein 4,000fed cartref, cynhaliwyd digwyddiad ar safle newydd Heol Pont y Goron yn Sebastopol.

Ysgrifennwyd gan Marcus

24 Chwef, 2017

Meeting some of the new residents
I nodi adeiladu ein 4,000fed cartref, cynhaliwyd digwyddiad ar safle newydd Heol Pont y Goron yn Sebastopol. Mae’r datblygiad 22 cartref a adeiladwyd ar hen safle ysgol Crownbridge yn golygu bod Melin bellach yn berchen ar ac yn rheoli dros 4,000 o gartrefi, gyda mwy na 1700 yn Nhorfaen.

Mynychwyd y digwyddiad gan Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, Aelod Gweithredol dros Addysg, y Cynghorydd David Yeowell a’r Aelod Gweithredol dros Dai, y Cynghorydd Gwyneira Clark. Aeth yr ymwelwyr ar daith dywys o gwmpas y datblygiad gyda’n Prif Weithredwr newydd Paula Kennedy a chael cyfle i gyfarfod rhai o drigolion Heol Pont y Goron.

Meddai Prif Weithredwr Melin, Paula Kennedy: “Mae hon yn garreg filltir anferth i ni ym Melin ac yn tanlinellu’r cynnydd rydym wedi ei wneud ers i ni ddechrau yn 2007. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb ein partneriaid, megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac mae’n enghraifft wych o sut y gall gwaith partneriaid gyflawni cartrefi newydd hanfodol ar gyfer pobl. Roedd yn wych tywys y Cynghorydd a’i dîm o gwmpas y datblygiad diweddaraf a chyfarfod ein trigolion newydd yn Heol Pont y Goron.”

Rydym yn ymroddedig i adeiladu mwy na 1,000 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf a chyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi newydd.

Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: “Mae’n braf cerdded o gwmpas datblygiad newydd mor drawiadol. Rwyf wedi cyfarfod â rhai o’r trigolion yma ar y safle ac wedi bod yn clywed sut mae’r cartrefi hyn wedi newid bywydau pobl. Da iawn Melin.”

Dywedodd un o’r preswylwyr Mr David Thomas: “Mae cael y cartref hwn yn newid ein bywydau’n llwyr fel teulu. Nid oeddem eisiau symud o’r ardal gan ei bod yn teimlo fel cymuned go iawn yma ac mae mor ddiogel i’r bechgyn. Mae'n wych clywed bod Melin wedi cyrraedd 4,000 o dai, ac ni fedraf gredu mai ni sydd yn y tŷ hwnnw. Rydym yn teimlo mor ffodus o gael y cartref hwn, a byddwn bob amser yn gofalu amdano; mae’n teimlo fel pe baem wedi ennill y loteri.”

Yn ôl i newyddion