Yn ôl i newyddion

Cawr y Cyfnod Clo

Pan welodd Peter Hill neges ‘dirdynnol’ ar dudalen Facebook Covid-19, roedd rhaid iddo helpu. Mae ei stori’n tystio fod caredigrwydd yn heintus.

Ysgrifennwyd gan Sam

18 Mai, 2020

Peter, cawr y cyfnod clo
Pan welodd Peter Hill neges ‘ddirdynnol’ ar dudalen Facebook Covid-19, roedd rhaid iddo helpu.
Daeth y neges gan riant nyrs a oedd yn gweithio yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent a ddywedodd fod ei ferch yn gweithio sifftiau 12 i 14 awr heb allu cymryd egwyliau digonol ac yn aros dim ond i gael byrbryd cyflym i’w chynnal hi.
Dywedodd Peter: ”Dangosais i hyn i fy ngwraig ac fe benderfynon ni wneud cyfraniad personol. Fe aethom ni i archfarchnad (cyn y cyfyngiadau) a phrynu diodydd a bwyd i’r Uned. Aethom ni â’r rhain i’r ysbyty, gan gymryd llun o’r car yn llawn. Ar ôl dangos y lluniau, dechreuais gael negeseuon gan bobl eraill oedd am gyfrannu.”
Daeth gwaith da Peter i sylw’r gymuned ac roedd eraill yn awyddus i helpu.
Ysgrifennodd hefyd at archfarchnadoedd yn gofyn am hanfodion i gleifion y byddai ymwelwyr fel arfer yn dod â nhw, gan gynnwys pethau ymolchi ac i’r gwely a byrbrydau. Ymatebodd un archfarchnad, rhoddodd Peter luniau ar Facebook ac unwaith eto roedd rhagor o bobl hael am wneud cyfraniadau.
Adeg y Pasg, casglodd Peter a menyw o’r enw Claire (a oedd hefyd yn awyddus i helpu) dros 250 o wyau Pasg a’u rhoi i gartrefi gofal ac ysbytai.
Ychwanegodd Peter: “Yn ddiweddar, tua diwedd Ebrill, sylwais fod eraill yn gwneud yr un peth â fi. Felly, cysylltais i â nhw. Nawr mae yna dîm sy’n cael ei gydlynu gan Justine. Yn y tîm, mae yna saith neu wyth o yrwyr.
"Felly, does dim rhai i fi weithio ar draws Casnewydd gyfan bellach. Rydw i’n gyfrifol am Gaerllion, Beechwood, Sain Silian, Glanyrafon, Maendy, Cas-gwent a Corporation Roads, a Llyswyry etc.. Rydym ni i gyd yn casglu ac yn dosbarthu i ysbytai a chartrefi gofal.”
Mae Peter yn dweud eu bod yn ‘casglu o’r gymuned ar gyfer y rheiny sy’n gofalu am ein cymuned’. Mae e’n un o Gewri’r Cyfnod Clo ac mae ein stori’n dangos fod caredigrwydd yn heintus.

Yn ôl i newyddion