Yn ôl i newyddion

Chwilio am bethau i’w gwneud yn ystod hanner tymor mis Hydref?

Mae bron yn hanner tymor mis Hydref! A dim ond 65 noson o gwsg i fynd cyn Diwrnod y Nadolig, rydym oll yn chwilio am bethau rhad neu am ddim er mwyn difyrru’r plant dros yr hanner tymor.

Ysgrifennwyd gan Fiona

20 Hyd, 2017

Chwilio am bethau i’w gwneud yn ystod hanner tymor mis Hydref

Mae bron yn hanner tymor mis Hydref! A dim ond 65 noson o gwsg i fynd cyn Diwrnod y Nadolig, rydym oll yn chwilio am bethau rhad neu am ddim er mwyn difyrru’r plant dros yr hanner tymor.

Mae llawer o wefannau gyda syniadau gwych, ond rydym wedi dewis rhai pethau a fydd yn sicr o fynd â’ch bryd.

Os yw’n glawio;
Nofio – mae gennym ddigon o byllau nofio. Ewch i Nofio Cymru i gael hyd i bwll nofio sy’n agos atoch chi.
Gwneud anrhegion Nadolig. Mae gan wefan Activity Village syniadau gwych.
Amgueddfa ac Oriel Gelfyddyd Casnewydd
Amgueddfa genedlaethol Caerdydd
Y Pwll Mawr
Amgueddfa stori Caerdydd
Cerfio pwmpen, crefftau Calan Gaeaf?
Bowlio
Peintio Crochenwaith
Pam nad ewch i ymweld â gwefan Terrific Scientific y BBC – mae arbrofion gwych y medrwch eu gwneud gyda’ch gilydd yno!

Os yw’r diwrnod yn sych;

Gallech fynd ar y traeth
Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – mae llawer iawn yn digwydd yno dros y gwyliau hanner tymor.
Ewch i barc gwahanol bob dydd; mae cymaint i ddewis rhyngddynt – Tŷ Tredegar, Parc Pont-y-pŵl, Llyn Cychod Cwmbrân i enwi ond rhai.
Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston a’r pentref canoloesol, Penarth
Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan
Neu medrwch ymweld ag un o’r cestyll sydd gennym yng Nghymru?
Trefnu helfa Calan Gaeaf yn yr ardd
Mynd ar daith natur
Lle bynnag yr ydych, hwyl i chi yn ystod Hanner Tymor mis Hydref.

Yn ôl i newyddion