Yn ôl i newyddion

Codwch lais yn erbyn cam-drin

Yr wythnos yma (14eg Tachwedd) mae’n Wythnos Diogelu Cenedlaethol sy’n ein hatgoffa bod gan bawb rhan i ddiogelu oedolion a phlant sy’n agored i niwed.

Ysgrifennwyd gan Sam

16 Tach, 2016

Codwch lais yn erbyn cam-drin
Yr wythnos yma (14eg Tachwedd) mae’n Wythnos Diogelu Cenedlaethol sy’n ein hatgoffa bod gan bawb rhan i ddiogelu oedolion a phlant sy’n agored i niwed.
Os oes rhywbeth yn edrych o’i le – mae’n debygol ei fod. Gall bob un wneud gwahaniaeth ac mae gyda ni i gyd gyfrifoldeb i Godi Llais yn erbyn cam-drin.

Mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent Gyfan (GWASB) wedi lansio fideo byr i godi ymwybyddiaeth o gam-drin oedolion. Maen nhw hefyd wedi ariannu drama i bobl ifanc ar draws y rhanbarth i godi ymwybyddiaeth am bryderon diogelu pobl ifanc.

Mae holl staff rheng flaen Melin wedi derbyn hyfforddiant diogelu ac yn ymwybodol o’n trefn i Godi Llais yn erbyn unrhyw fath o gam-drin.

Dywedodd ein rheolwr Byw yn Dda Shona Martin: “Rwy’n gobeithio, trwy hybu Wythnos Diogelu Cenedlaethol, y bydd gyda ni i gyd gwell ymwybyddiaeth o’r materion yma ac y bydd lles a diogelwch pobl sy’n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn.”

Os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n cael eu cam-drin Codwch Lais. Ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu mewn argyfwng ffoniwch 999.

Am fwy o wybodaeth am ddiogelu ewch i wefan Bwrdd Diogelu Oedolion Gwent Gyfan

Yn ôl i newyddion