Yn ôl i newyddion

Buddion Cymunedol

Mae Melin wedi gweithio gyda Ysgol Gynradd Padre Pio i'w brynu beinciau newydd ar gyfer y plant

Ysgrifennwyd gan Sam

20 Medi, 2023

Grwp o blant

Datblygiad Penywain Lane

Rydym yn adeiladu 33 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ardal Penywain ym Mhont-y-pŵl ac i sicrhau bod effaith gadarnhaol y cartrefi hyn mor bellgyrhaeddol â phosibl, fe wnaethom ymuno â'n contractwyr Bluefield Land er budd y gymuned leol.

Yr wythnos diwethaf, fel rhan o'r prosiect buddion cymunedol, buom yn dathlu'r meinciau picnic newydd a roddom i Ysgol Gynradd Padre Pio gyda detholiad o gacennau a ffrwythau.

Cafodd y saer prentis Joshua Evans dipyn o brofiad gwerthfawr. Trwy Y Prentis, ein cynllun rhannu prentisiaethau, aeth Joshua i weithio gyda Bluefield ar brosiect Avalon Place ac roedd wrth ei fodd gyda’r cyfle i wirfoddoli i adeiladu’r holl feinciau.

Plant bwyta ffrwyth a chacen
Maggie, Alys and Daniel yn hoffi'r beinciau newydd

Rydym wrth ein boddau â’r meinciau ac maen nhw 'bron’ cystal â chacen

Maggie Alys and Daniel — Class 2 Padre Pio Primary School

Yn ôl i newyddion