Yn ôl i newyddion

Datblygiad yn Sain Derfel yn ennill Gwobr ‘Datblygiad Bach Cymdeithas Tai Gorau’ gan LABC Cymru

Rydym yn falch o fedru rhannu’r newyddion bod ein datblygiad diweddar yn Michael Thacker Court, Sain Derfel, Cwmbrân wedi ennill gwobr fawreddog ‘Datblygiad Bach Cymdeithas Tai Gorau’ i Gymru gan Reolaeth Adeiladu Awdurdod Lleol (LABC.)

Ysgrifennwyd gan Will

14 Hyd, 2022

Grwp o bobl sefyll mewn stryd

Mae’r datblygiad, a gwblhawyd yng Ngorffennaf 2021, yn cynnwys amrywiaeth o 17 o gartrefi:

  • Wyth fflat 1 ystafell wely
  • Saith tŷ 2 ystafell wely
  • Dau dŷ 3 ystafell wely, un wedi ei addasu ar gyfer byw’n annibynnol

Mae ennill y wobr yma’n dangos safonau uchel datblygiadau tai Melin ac yn adlewyrchu gwaith caled staff Melin a’u contractwyr, yn yr achos yma, CJ Construction (Wales) Ltd a’r penseiri LeTrucco Design.

Rydym yn falch ein bod ni wedi ennill gwobr Cymru ar gyfer Datblygiad Bach Cymdeithas Tai Gorau. Digwyddodd y datblygiad yma trwy gyfnod y pandemig ac roedd yn cyflwyno amrywiaeth o heriau unigryw, ond roeddem ni’n wirioneddol falch â’r canlyniad. Mae’n braf iawn cael y gydnabyddiaeth hon gan randdeiliaid y diwydiant yn a hoffem ddiolch y rheiny i gyd a weithiodd gyda ni i weld y datblygiad yn cael ei wireddu.

Gerrard Williams, Cyfarwyddwr Datblygiad — Melin Homes

Mae’r datblygiad yn sefyll ar safle hen ysgol Blenheim ac, yn ogystal â’r cartrefi newydd, mae yna fan chwarae i blant. Gweithion ni gydag ysgol leol, Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road, i enwi’r datblygiad er anrhydedd y Corporal Michael Thacker o’r Cymry Brenhinol, a gollodd ei fywyd yn Nhalaith Helmand, Affganistan yn 2012. Roedd y Corporal Thacker yn dod o’r ardal leol ac enwyd y datblygiad er anrhydedd iddo mewn seremoni a fynychwyd gan ei deulu, aelodau o’r lluoedd arfog, Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen, y Cynghorydd Richard Clark a chynrychiolwyr lleol llynedd.

Mae gwobrau LABC yn fawr eu bri yn y diwydiant adeiladu ac fe’u rhoddir gan Reolaeth Adeiladu Awdurdod Lleol, corff ymbarél sy’n cynrychioli swyddogion rheolaeth adeiladu ac awdurdodau lleol dros Gymru a Lloegr i gyd.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld