Yn ôl i newyddion

Cydweithwyr yn gwirfoddoli yng Nghambodia

Mae dau aelod o staff Cartrefi Melin ar eu ffordd i Gambodia ar ddydd Gwener (7 Hyd) fel rhan o dîm rhyngwladol a fydd yn adeiladu cartref newydd i deulu mewn un wythnos.

Ysgrifennwyd gan Sam

10 Hyd, 2016

Leaving for Cambodia
Mae dau aelod o staff Cartrefi Melin ar eu ffordd i Gambodia ar ddydd Gwener (7 Hyd) fel rhan o dîm rhyngwladol a fydd yn adeiladu cartref newydd i deulu mewn un wythnos.
Bydd trydanwr Craig Cheedy a Swyddog Prosiect Georgina James yn hedfan i Asia gyda’r elusen Habitat for Humanity.
Dyma’r ail daith i Craig gyda Habitat for Humanity, ar ôl bod yng Ngwlad Thai llynedd. Roedd y profiad mor werthfawr iddo ac eleni mae’n mynd fel dirprwy arweinydd tîm. Yn ymuno gydag e yng Nghambodia bydd ei gydweithiwr Georgina a ddewiswyd i gynrychioli Melin eleni. Bydd y ddau yn aros yn rhanbarth Siem Reap.
Dywedodd Georgina: “Mae hi mor gyffrous cael mynd i Gambodia er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rai mewn angen. Rwy’n awyddus i gael persbectif gwahanol ac adeiladu gwell ddyfodol i deuluoedd sydd â thipyn llai na ni. Dyma’r pellaf i fi deithio ond rwy’n falch o gael fy nghydweithiwr Craig gyda fi.”
Ar ôl pennu timau, gwaith Georgina a Craig bydd adeiladu tŷ newydd ac unwaith bydd y gwaith wedi’i gwblhau fe fyddan nhw’n cael cwrdd â’r teulu ac yn dangos eu cartref newydd iddyn nhw.
Dywedodd Craig; “Rhan gorau’r daith llynedd oedd gweld yr hapusrwydd a derbyn diolch gan y teulu am, adeiladu’u cartref. Unwaith eto mae Melin wedi bod yn wych yn caniatáu i fi gael bod yn ddirprwy arweinydd tîm ac i fynd ar ail daith, a bydd cael Georgina gyda fi i rannu’r profiad yn wych hefyd.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Melin, Mark Gardner, “Eleni rydym wedi canolbwyntio ar yr etifeddiaeth y bydd ein gwaith ym Melin yn gadael ar ôl. Tra byddwn ni cyn bo hir wedi gorffen adeiladu 4,000 o gartrefi yng Nghymru, rydym yn hapus i gefnogi Georgie and Craig wrth iddyn nhw daenu peth o hud Melin ac adeiladu un cartref arbennig iawn i deulu ym mhen draw’r byd.”

Yn ôl i newyddion