Yn ôl i newyddion

Cyngor ar ynni yn helpu Ken

Cyngor ar ynni yn helpu KenRoedd Ken o Bont-y-pŵl mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd pan gysylltodd ein Cynghorydd Ynni David Wallace ag ef a’i helpu.

Ysgrifennwyd gan Sam

05 Maw, 2020

Cyngor ar ynni yn helpu Ken
Roedd ar Ken fwy na £600 ar ei fil trydan ac roedd yn poeni am y ddyled. Ar ôl gweithio gyda Ken a’r darparwr ynni, llwyddodd David i leihau ei ddyled yn llwyr a chytuno ar fil trydan misol fforddiadwy. Roedd David hefyd yn gallu pasio’r wybodaeth am Ken i Gavin ei gydweithiwr ar y tîm Incwm a Chynhwysiant, sydd nawr yn gweithio gyda Ken i roi cyngor ar arian iddo.
Rydym wedi siarad gyda Ken, a oedd eisiau i ni wybod faint roedd yn gwerthfawrogi’r help a gafodd.
“Mae bod mewn dyled yn straen mawr ac mae’n gallu effeithio eich iechyd. Rwyf wir yn gwerthfawrogi popeth y mae David a Gavin wedi ei wneud ar fy rhan. Roedd y cyngor yn rhagorol a gallwch siarad gyda nhw yn hawdd – maent yn gwneud i chi deimlo’n gyfforddus. Heb yr help hwnnw, ni fuaswn lle rydw i nawr. Buaswn mewn mwy o ddyled, gyda mwy o straen. Rwy’n gweld y goleuni ym mhen draw’r twnnel nawr.”
Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod angen cyngor ar arian neu ynni, cysylltwch gyda’r tîm ar 01495 745910 neu ebostiwch moneyadvice@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion