Yn ôl i newyddion

Darparu cefnogaeth i bobl sy’n ddigartref

Rydym wedi datblygu cysylltiadau agos gyda Street Life Sarnies sef prosiect a sefydlwyd i helpu’r digartref yn Ne Cymru. Fe wnaeth ymrwymiad a dyfeisgarwch y sylfaenydd Claire Day cymaint o argraff ar y gymdeithas dai gofynasant i staff a chontractwyr ddod â chyfraniadau.

Ysgrifennwyd gan Fiona

08 Tach, 2016

Darparu cefnogaeth i bobl sy’n ddigartref

Rydym wedi datblygu cysylltiadau agos gyda Street Life Sarnies sef prosiect a sefydlwyd i helpu’r digartref yn Ne Cymru. Fe wnaeth ymrwymiad a dyfeisgarwch y sylfaenydd Claire Day cymaint o argraff ar y gymdeithas dai gofynasant i staff a chontractwyr ddod â chyfraniadau.

Roedd yr ymateb yn rhagorol; casglwyd cannoedd o eitemau bwyd, pethau ymolchi, dillad a bagiau cysgu. Bydd yr eitemau mawr eu hangen yn cael eu rhannu a'u cyflwyno i brosiect ymyrraeth cysgu allan y Wallich, canolfan ddydd a lloches nos Edengate a Solas Cymru, hostel i'r digartref; pob un ohonynt wedi'u lleoli yng Nghasnewydd.

Meddai Claire, SLS "Diolch yn fawr iawn i staff, cleientiaid a chontractwyr cartrefi Melin, a helpodd gyda'r pentwr anhygoel a gawsom heddiw. Bydd eich caredigrwydd yn bwydo llawer nad ydynt wedi bwyta am ddyddiau ac yn darparu parsel bwyd i westai sy'n derbyn llety. Bydd eich gofal a'ch haelioni yn rhoi hwb o hunanwerth i ymladd ddiwrnod arall ar adeg anodd iawn yn eu bywyd. Diolch i chi am wireddu hyn. "

Gyda statws elusen ar y gorwel i SLS mae’r dyfodol yn ddisglair. Mae’r aelodaeth wedi tyfu dros y ddwy flynedd diwethaf a hynny’n eithriadol, i dros 2,000 o aelodau erbyn hyn. Os hoffech gefnogi SLS gallwch gysylltu â hwy trwy eu gwefan.

Meddai Sharon Crockett, Cyfarwyddwr Cynorthwyol; “Rydym bob amser yn ymfalchïo yn ei staff, sydd bob amser yn llwyddo i gefnogi prosiectau fel SLS. Mae adeiladu partneriaethau o fewn y cymunedau hynny yr ydym yn gweithio gyda hwy, mor bwysig i Gartrefi Melin.”


Yn ôl i newyddion