Yn ôl i newyddion

Dathlu Mawr i Dîm Bod yn Wyrddach Am Ennill Gwobr

Llongyfarchiadau i'n tîm Bod yn Wyrddach ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Rhanbarthol Effeithlonrwydd Ynni ar 15 Chwefror 2017.

Ysgrifennwyd gan Fiona

22 Chwef, 2017

Dathlu Mawr i Dîm Bod yn Wyrddach Am Ennill Gwobr
Llongyfarchiadau i'n tîm Bod yn Wyrddach ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Rhanbarthol Effeithlonrwydd Ynni ar 15 Chwefror 2017.

Enillodd y tîm Prosiect Gorau ar Raddfa Fawr gan guro 6 o brosiectau eraill! Ariannwyd y prosiect drwy Ymgyrch Eco, Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru. Gweithiodd y tîm gydag Awdurdodau Lleol ym Merthyr Tudful, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Bro Morgannwg a Blaenau Gwent i gwblhau gwaith arbed ynni ar 765 o eiddo. Mae hyn yn cyfateb i arbed 14,000 o dunelli o garbon mewn oes. Beth mae hynny'n ei olygu o ddifri? Byddai hynny yr un pwysau â 14,000 o jiraffod sydd wedi tyfu'n llawn!

Dywedodd David Bolton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y tîm "Rwy'n hynod o falch o'r tîm, a'n perthynas waith ardderchog gyda Awdurdodau Lleol ar draws de Cymru. Rydym yn gyffrous iawn gyda'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru sy'n datgan y byddant yn buddsoddi £104 miliwn mewn cynlluniau ynni dros y 4 blynedd nesaf."

Roedd y tîm yn falch o dderbyn canmoliaeth uchel am eu Prosiect Cwsmeriaid Bregus.

Yn ôl i newyddion