Yn ôl i newyddion

Digwyddiad BCS ar gyfer Prosiect Trawsnewid Gweithle y Flwyddyn

Os ydych chi yn Llundain ar ddydd Iau 23 Chwefror, galwch draw i'n gweld yn rhoi sgwrs yn Sefydliad Siartredig TG Prydain!

Ysgrifennwyd gan Valentino

09 Chwef, 2017

Digwyddiad BCS ar gyfer Prosiect Trawsnewid Gweithle y Flwyddyn
Y llynedd dyfarnwyd inni’r wobr Prosiect Trawsnewid Gweithle y Flwyddyn yng Ngwobrau TG BCS a byddwn yn cynnal trafodaeth ar ddydd Iau 23ain Chwefror i rannu ychydig mwy o wybodaeth am y dechnoleg a'r arfer a wnaeth ein harwain i ennill y wobr. Yma ym Melin rydym wastad wedi cael diwylliant cryf iawn gyda thîm o staff sy'n llawn cymhelliant a 2 flynedd yn ôl fe gychwynnom ar siwrnai uchelgeisiol i annog ein staff a'r Bwrdd i weithio'n fwy craff a bod yn fwy hyblyg ac effeithlon. Rydym nawr mewn sefyllfa lle mae ein holl staff, boed yn gynorthwyydd swyddfa neu beiriannydd nwy, yn gallu cyflawni’u dyletswyddau dyddiol yn gyfan gwbl o bell, o unrhyw le y maent yn dymuno drwy dechnolegau newydd ac arferion gwaith. Mae'r prosiect hwn wedi ein galluogi i wella'r gwasanaethau a ddarperir i'n trigolion a'n partneriaid tra'n lleihau costau, gwella'r amgylchedd gwaith, lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd naturiol, sicrhau mwy o foddhad wrth weithio a grymuso'n holl aelodau staff. Gallwch gael rhagor o fanylion am ble a phryd y cynhelir y digwyddiad ar wefan digwyddiadau BCS. Byddem wrth ein bodd i’ch gweld chi yno!

Yn ôl i newyddion