Yn ôl i newyddion

Diweddariad Diwygio Lles: Partneriaeth PDLG

Rydym wedi ymuno mewn partneriaeth er mwyn lleihau effeithiau diwygio lles.

Ysgrifennwyd gan Marcus

13 Rhag, 2016

Diweddariad Diwygio Lles
Rydym wedi ymuno mewn partneriaeth er mwyn lleihau effeithiau diwygio lles. Sefydlwyd Partneriaeth Diwygio Lles Gwent gan 8 o gymdeithasau tai a’r pum awdurdod lleol yng Ngwent. Mae’r bartneriaeth yn ceisio amlygu effaith diwygio lles yng Ngwent a helpu tenantiaid i ddelio â newidiadau i fudd-daliadau yn well. Y cymdeithasau tai sydd yn y bartneriaeth yw United Welsh, Tai Cymunedol Bron Afon, Charter Housing, Linc-Cymru, Cartrefi Melin, Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Cartrefi Dinas Casnewydd, a Thai Calon.

Mae diwygiadau fel y dreth llofftydd, newidiadau i daliadau Treth y Cyngor a thoriadau i fudd-daliadau yn ogystal â Chredyd Cynhwysol a’r Cap Budd-daliadau yn effeithio gallu trigolion i ymdopi ac yn newid y ffordd y mae cymdeithasau tai yn helpu eu tenantiaid. Rydym yn gofyn i drigolion gysylltu â’r Tîm Cyngor Arian, sydd wedi’u hyfforddi i ddelio â newidiadau o ganlyniad i ddiwygiadau lles ac i roi arian yn ôl i bocedi trigolion. E-bostiwch moneyadvice@melinhomes.co.uk,

Ffoniwch 01495 745910 i siarad â’r tîm.


Yn ôl i newyddion