Yn ôl i newyddion

Diweddariad Diwygio Lles: Dileu’r Premiwm Plant

2016 nid yw’r Premiwm Teulu yn cael ei gynnwys ym Mudd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor.

Ysgrifennwyd gan Marcus

29 Tach, 2016

Cyn Mai 2016, os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor ac mae gennych chi blant, byddwch yn derbyn Premiwm Teulu o £17.45. Ond o Fai 2016 nid yw’r Premiwm Teulu yn cael ei gynnwys ym Mudd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor.


Beth mae hyn yn ei olygu i fi?

Os byddwch yn hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor o’r newydd, ni fyddwch yn derbyn y Premiwm Teulu. Os oes gennych chi blentyn neu’r ydych yn dod yn gyfrifol am blentyn ar Mai 2016, ni fyddwch yn derbyn y premiwm hwn hyd yn oed os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor eisoes.

Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor yn barod ac yn derbyn y Premiwm Teulu, byddwch yn parhau i’w dderbyn hyd nes i chi hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor o’r newydd neu os nad ydych bellach yn gyfrifol am unrhyw blant.


Y Tîm Cyngor Ariannol

Mae ein Tîm Cyngor Ariannol yn gofyn i chi beidio â gadael i drafferthion ariannol i bwyso arnoch chi, maen nhw yma i drafod ac i helpu mewn unrhyw fodd y gallan nhw.

Mae’r tîm yn falch o fod yn gyfeillgar ac yn groesawus. Nid barnu pobl yw’r bwriad, maen nhw yno i helpu gyda newidiadau sy’n deillio o ddiwygio lles, cyllidebu, grantiau a chefnogaeth ariannol arall. Mae’r tîm i gyd yn gynghorwyr ariannol cymwys a llynedd llwyddodd y tîm i arbed dros £1.4miliwn i drigolion - danfonwch e-bost neu ffoniwch 01495 745910.

Yn ôl i newyddion