Yn ôl i newyddion

Gwneud ein rhan dros yr amgylchedd

Rydym wedi ymrwymo at chwarae’n rhan dros y blaned – i’n tîm, ein trigolion, ein cymunedau a’n partneriaid yr ydym yn gweithio â nhw. Mae’n rhaid i ni i gyd gyfrannu i warchod yn hyn yr ydym yn ei garu rhag argyfyngau hinsawdd a natur.

Ysgrifennwyd gan Fiona

09 Maw, 2022

A person saving food waste to be composted

Rydym wedi ymrwymo at chwarae’n rhan dros y blaned – i’n tîm, ein trigolion, cymunedau a’n partneriaid yr ydym yn gweithio â nhw. Mae’n rhaid i ni i gyd gyfrannu i warchod yn hyn yr ydym yn ei garu rhag argyfyngau hinsawdd a natur. Gallwch ddarllen ynglŷn â sut rydym yn ceisio gwneud newid cadarnhaol ar ein tudalen cynaliadwyedd.

I’ch helpu i wneud gwahaniaeth, rydym wedi crynhoi rhai syniadau a allai eich helpu chi.

Arbed ynni

Os ydych chi allan o’r tŷ am gyfnodau hir, defnyddiwch yr amserydd i ddiffodd a chynnau eich gwres canolog pan fyddwch yn mynd allan ac yn dod yn ôl, fel nad yw’n cynhesu eich cartref pan nad ydych chi yno.

Rhowch dro ar wefru’ch ffôn yn ystod y dydd pan fyddwch yn gallu cadw llygad i weld pan fydd wedi ei wefru’n llawn, yn hytrach na’i adael dros nos.

  • Gosodwch fylbiau golau ynni isel pan fyddwch yn cael gwared ar rai traddodiadol.
  • Cofiwch, gall gostwng eich gwres un radd arbed arian i chi.
  • Gofynnwch i’ch cyflenwr ynni am fesurydd clyfar neu arddangoswr mesurydd clyfar.
  • Mae mesuryddion clyfar nid yn unig yn helpu gyda chofnod cywir o ddefnydd, gallan nhw arbed arian i chi hefyd trwy osod cyllideb gyda’ch defnydd o ynni. Mae cofnodion mesuryddion clyfar yn fwy cywir oherwydd gall gwybodaeth am eich defnydd gael ei danfon at eich cyflenwr pob hanner awr, diwrnod neu fis. Chi sy’n dewis pryd, felly dim rhagor o filiau wedi eu hamcangyfrif.

Cadwch yn gynnes ac arbedwch arian

Trwy atal drafftiau, gallwch atal dianc gwres. Gallwch wneud hyn trwy gau llenni cyn gynted a bydd yn tywyllu a thrwy roi pethau atal drafftiau wrth ddrysau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw drysau a ffenestri ar gau. Byddwch yn defnyddio llai o ynni i gadw’ch cartref yn gynnes. Mae’n bwysig awyru cartref, ond agorwch ffenestri a drysau pan fydd eich gwres wedi ei ddiffodd.

  • Cadwch ddrysau mewnol ar gau a chaewch lenni yn ystod y nos i helpu i gadw’r gwres yn eich cartref.
  • Defnyddiwch y duvet maint cywir am y tywydd (llai yn yr haf, mwy yn y gaeaf), er mwyn osgoi defnyddio’r gwres heb angen.

Diffoddwch i arbed

Mae gan nifer o’ch eitemau trydanol, fel teledu, fodd segur pan na fyddan nhw’n cael eu defnyddio, ond maen nhw’n dal i ddefnyddio trydan ac yn costio arian i chi.

Gallwch arbed £30 y flwyddyn ar gyfartaledd trwy ddiffodd eich teledu ac eitemau trydan eraill. Crëwch drefn ar gyfer diffodd cyn gwely neu waith, neu gallwch ddefnyddio amserydd ar y plwg, fel nad oes rhaid i chi gofio.

Siopwch i arbed

Pan fydd yn amser prynu nwyddau gwyn, fel peiriant golchi, dewiswch un â gradd uchel o effeithlonrwydd ynni. Bydd hyn yn arbed arian i chi.

Golchwch i arbed

Golchwch ddillad a llestri ar dymheredd is i arbed ynni ac arian. Mae golchi dillad ar 30 gradd yn hytrach na 40 gradd yn defnyddio llai o drydan ac yn gallu arbed hyd at £6 y flwyddyn. Os allwch chi dorri un golch yr wythnos, byddwch yn arbed arian ar eich bil ynni blynyddol.

Gall sychdaflwyr fod yn ddrud o ran trydan. Defnyddiwch nhw dim ond pan fo rhaid. Rhowch y golch allan i sychu pan fo’n bosibl, yn lle sychu ar wresogyddion yn y cartref. Gall sychu dillad ar wresogyddion greu hyd at naw peint o ddŵr, sy'n gallu achosi lleithder. Mae’n cyfyngu ar y gwres sy’n dod o’ch gwresogyddion hefyd, felly nid yw eich cartref yn cynhesu fel y dylai. Os na allwch chi sychu’ch dillad y tu allan, defnyddiwch hors ddillad y tu fewn yn lle.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’ch golchwr llestri a’ch peiriant golchi dim ond pan fyddan nhw’n llawn. Gallwch arbed tua £25 y flwyddyn trwy olchi llestri mewn powlen yn hytrach na defnyddio tap sy’n rhedeg.

Efallai gallech roi cloc yn yr ystafell ymolch i’ch annog chi neu aelodau eich teulu i fod yn gynt yn y gawod.

Coginio ac arbed

Trwy goginio swmp o brydiau a rhewi'r rhain ar gyfer pryd yn nes ymlaen, gallwch arbed ynni gan y byddwch chi’n defnyddio llai ar y popty.

Ble mae’n bosibl, gallwch ddefnyddio’r popty microdon yn lle’r popty gan eu bod yn defnyddio llai o ynni.

Wrth gadw cloriau ar sosbenni, byddwch yn atal lleithder ac yn cadw’r gwres yn y sosban gyda’ch bwyd hefyd. Os ydych chi’n defnyddio tegell wrth goginio, gwnewch yn siŵr eich bod yn berwi dim ond hynny o ddŵr ag sydd angen arnoch chi.

Mae tegellau’n defnyddio llawer o drydan, rhowch dro ar ferwi dim ond hynny o ddŵr ag sydd angen arnoch chi.

Lleihau gwastraff

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu cymaint â phosibl o wastraff eich cartref ag y gallwch. Ewch at wefan eich Awdurdod Lleol i weld pryd mae eich diwrnodau ailgylchu a beth maen nhw’n fodlon casglu. Ewch i gael ryseitiau ac awgrymiadau ar gyfer defnyddio bwyd a lleihau gwastraff bwyd. Hefyd, rhowch dro ar wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.

Defnyddiwch boteli dŵr y gallwch eu hail-lenwi, a chynwysyddion y gallwch eu hailddefnyddio ar gyfer eich cinio. Ewch i ap Refill i gael hyd i fannau sy’n agos atoch chi.

Ceisiwch dorri’r defnydd o blastig un tro. Ewch i wefan Plastic Free Communities am ragor o wybodaeth.

Mae yna nifer o Siopau Gwastraff Sero Refill:

Siopau Sero gwastraff

Casnewydd
Sero Zero Waste

Torfaen
Zero Waste Torfaen

Monmouthshire
Wye Weight Monmouth
Natural Weigh

Blaenau Gwent
Zero Waste Shop Brynmawr (Facebook page)

Edrychwch ar ôl eich dillad a pheidiwch â phrynu ffasiynau tafladwy. Mae bargeinion mewn siopau elusen lleol hefyd. Ewch at Love Your Clothes am syniadau ar sut i uwchgylchu dillad.

Rhowch ddillad nad ydych eu hangen, bric-a-brac, llyfrau, celfi etc. i’ch siop elusen leol i leihau gwastraff sy’n cael ei gladdu ac i helpu i godi arian.

Ewch â’ch nwyddau wedi eu torri at siop atgyweirio ac ailddefnyddio leol. Os chwiliwch chi ar Facebook neu Instagram, mae yna nifer o elusennau o’r fath. Maen nhw’n ceisio atgyweirio nwyddau sydd wedi torri, a gallwch dalu swm bach i gael benthyg eitemau hefyd.

Cerdded a seiclo

Rhowch dro ar gerdded teithiau byw i leihau carbon wrth ymarfer corff ar yr un pryd!

Mynnwch wybodaeth am lwybrau seiclo a grwpiau seiclo lleol, ac ewch ar eich beic ar wefan Sustrans

Ymunwch gyda rhieni a’ch ysgol leol i ddatblygu bws cerdded i gerdded y rhai bach i’r ysgol.

Os yw eich siwrnai’n rhy bell, rhowch dro ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle’r car.

Tyfwch

Gallech roi tro ar dyfu eich perlysiau a’ch llysiau eich hun. Os nad oes chwant garddio arnoch chi, beth am daenu hadau blodau gwyllt, mae’r gwenyn a’r gloÿnnod byw wrth eu bodd gyda’r rheiny.

Os oes gyda chi unrhyw syniadau neu os hoffech chi rannu'r hyn yr ydych yn ei wneud i leihau eich ôl-troed carbon, rhannwch nhw â ni news@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld