Yn ôl i newyddion

Addysg a phenderfyniad: Stori Shelley

Rydym am rannu stori Shelley Thomas, 47, o Gwmbrân gyda chi. Gwnaeth Shelley gais i gronfa Jump2 Melin chwe blynedd yn ôl ar gyfer cymorth gyda chost addysg bellach. Cysylltodd â ni’n ddiweddar er mwyn diolch i ni ac felly roeddem ni am achub ar y cyfle i glywed y diweddaraf gan Shelley am ei thaith anhygoel trwy addysg ac i lwybr gyrfa newydd anhygoel…

Ysgrifennwyd gan Will

07 Medi, 2023

Logo cronfa Jump2

Gwnaeth Shelley, mam sengl i bedwar o blant (nawr yn 15, 17, 21 a 22 oed) benderfyniad a fyddai’n newydd ei bywyd chwe blynedd yn ôl. Cofrestrodd ar gwrs mynediad astudiaethau cyfreithiol ym Mhrifysgol De Cymru gyda’r bwriad o fynd ymlaen i astudio am radd yn y gyfraith.

Cafodd Shelley drafferth ar y dechrau i gael ariannu (roedd cyllid i fyfyrwyr ar gael dim ond unwaith yr oedd hi ar gwrs gradd ffurfiol yn y gyfraith) ac felly gwnaeth hi gais i’n cronfa Jump2 ar gyfer cymorth gyda chostau ei hastudiaethau. Rhoddodd cefnogaeth Melin gymorth i Shelley a llwyddodd i gofrestru wedyn ar gwrs gradd Baglor yn y Gyfraith ym mhrifysgol De Cymru ac yno, llynedd, cafodd radd 2:1.

Cafodd Shelley flas ar y profiad o ddilyn cwrs gradd a chafodd bleser wrth ddysgu am faterion cyfreithiol cyfredol ac edrych ar astudiaethau achos. Mae ganddi lwybr gyrfa cyffrous o’i blaen a chafodd swydd yn ddiweddar fel Gweithiwr Preswyl i’r Gynghrair Ymyraethau ar ran y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Unwaith iddi gael ei chymeradwyo, bydd Shelley’n gweithio gyda throseddwr sydd wedi eu gollwng o’r carchar ac sydd mewn llety cymeradwy. Ei rôl fydd cefnogi cyn-droseddwyr wrth iddyn nhw ailsefydlu eu hunain, eu cynorthwyo i gael llety, eu cefnogi gyda sgiliau bywyd a chefnogi eu hailintegreiddio. Mae Shelley’n canolbwyntio’n arbennig ar fenywod sy’n gyn-droseddwyr ac sydd wedi wynebu trais domestig, rhywbeth sy’n agos at ei chalon oherwydd ei phrofiadau ei hun.

Dwy ddynes yng ngwisg graddio
Mae Shelly (dde) wedi graddio o PDC gyda 2.1 yng nghyfraith

Mae Shelley hefyd wedi gosod cyfeiriad cryf i’w gyrfa hefyd, gydag uchelgais i fod yn swyddog prawf, unwaith y bydd hi wedi cael mwy o brofiad yn ei swydd.

Doedd taith Shelley ddim heb ei heriau. Cyn dilyn cwrs gradd, roedd hi’n ystyried gadael Cwmbrân oherwydd effeithiau parhaus perthynas niweidiol. Serch hynny, cafodd anogaeth gan gyngor cyfaill i sefyll ei thir, cymryd gafael mewn pethau a mynd yn ôl i addysg. Gyda hyn, dechreuodd ar ei thaith addysg bellach. Rhwystrwyd Shelley rhywfaint hefyd gan y pandemig a olygodd fod eu hastudiaethau wedi cymryd rhai blynyddoedd yn fwy nag yr oedd wedi bwriadu’n wreiddiol.

Roedd cydbwyso astudiaethau, magu pedwar o blant a gweithio fel glanhawraig yn her. Roedd rheoli gwaith, cludo i’r ysgol a gwaith cartref yn gofyn am ganolbwyntio a hunanddisgyblaeth, ac roedd dealltwriaeth a chefnogaeth ei phlant yn rhan allweddol o’i llwyddiant. Mae’n hi’n falch iawn ohonyn nhw.

Mae stori Shelley’n un o wydnwch, penderfyniad a thwf personol. Mae ei thrawsnewidiad o fod yn goroesi trais domestig i fod yn eiriol dros newid ac adferiad yn ysbrydoledig. Trwy ei moeseg gwaith a’i phenderfyniad, mae Shelley nid yn unig wedi gwella’i bywyd ond mae hi hefyd wedi canfod gwerth ei hannibyniaeth. Mae ei rôl newydd yn addo sicrwydd a boddhad, gan ategu’r syniad y gallwn ni, trwy benderfyniad a’r gefnogaeth gywir, oresgyn unrhyw rwystr ar y llwybr at lwyddiant. Mae hi’n mynd i fod yn gweithio i wneud ei chymuned yn lle gwell a bydd hi’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.

Mae gan Shelley neges glir i’r rheiny sydd wedi dychwelyd i addysg yn hwyrach mewn bywyd. Dywedodd: “Peidiwch â stopio. Waeth pa mor ddrwg mae pethau’n ymddangos, mae pethau’n gwella. Chiliwch am gyfleoedd oherwydd dydyn nhw ddim yn syrthio i’ch côl."

Mae’n rhaid i chi ddyfalbarhau ond mae angen i chi fod yn ffyddiog y byddwch chi’n cyrraedd y nod. Bydd holl droeon trwstan bywyd yn dod atoch chi pan fyddwch chi’n astudio, ond mae’n werth chweil erbyn y diwedd.

Shelley Thomas

Rydym yn credu bod Shelley wedi gwneud yn wych o hoffem ddiolch iddi am rannu ei stori gyda ni.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld