Yn ôl i newyddion

Elusen leol TRAC2 yn derbyn rhodd o fan ar gyfer y Nadolig

Oherwydd y cymal buddion cymunedol yn ein cytundebau, a’n partneriaeth gyda Robert Price, rydym wedi gallu rhoi fan i TRAC2. Trefnon ni i waith graffeg gael ei osod ar un o’n faniau sydd ar brydles a’i roi i dîm TRAC2 sy’n gwneud cymaint o waith yn lleol i gefnogi’r rheiny sydd mewn angen yn ein cymunedau.

Ysgrifennwyd gan Fiona

17 Rhag, 2020

Cyfarfu staff o Melin â Trac2 gyda'r fan newydd

Oherwydd y cymal buddion cymunedol yn ein cytundebau, a’n partneriaeth gyda Robert Price, rydym wedi gallu rhoi fan i TRAC2.

Trefnon ni i waith graffeg gael ei osod ar un o’n faniau sydd ar brydles a’i roi i dîm TRAC2 sy’n gwneud cymaint o waith yn lleol i gefnogi’r rheiny sydd mewn angen yn ein cymunedau.

Dywedodd Sue Malson – Rheolwr yn TRAC2:

“Pan gyrhaeddais i i gasglu’r fan a roddwyd gan Gartrefi Melin a Robert Price ces i fyn synnu, dydw i ddim yn credu fod unrhyw un yn sylweddoli faint o wahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud. Byddwn yn gallu helpu mwy o bobl, a rhoi gwasanaeth un-wrth-un. Er bod ein fan presennol, Stan, wedi bod yn anhygoel dros yr wyth mlynedd diwethaf, dyw e ddim wedi bod yn ddibynadwy bob tro. Gallwn ni ddim aros i ddechrau defnyddio Suki – ein henw newydd am fan newydd. Diolch i Robert Price a Melin am eu cefnogaeth.”

Siaradodd Sue ymhellach am waith yr elusen:

“Rydw i mor falch o bob dim yr ydym wedi ei gyflawni eleni. Trwy weithio gyda’n gilydd rydym wedi darparu gwelyau, cyllyll a ffyrc, dillad, nwy a thrydan a bwyd i deuluoedd. Rydym ni fel tîm, ac fel cymuned, yn ddiflino wrth frwydro tlodi a dydyn ni ddim am roi’r gorau i hynny. Mae’r gefnogaeth gan sefydliadau lleol fel Melin a Robert Price yn sicrhau ein bod yn gallu cadw i fynd.”

Gallwch ddysgu rhagor am waith TRAC2 trwy ymweld â’u gwefan.

Dywedodd David Pattison, Cyfarwyddwyr Gwerthiant yn Robert Price:

“Ers i ni fynd i bartneriaeth tair blynedd i gyflenwi deunyddiau i Melin yn 2018, rydym wedi cefnogi eu prosiectau cymunedol. Mae’r prosiect yma’n arbennig o bwysig i ni gan fod gwaith TRAC2 yn hanfodol, nawr yn fwy nag erioed. Fel cyflogwr a chyflenwyr mawr yn ne Cymru, rydym yn credu y dylen ni fod yn rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymuned leol.”


Yn ôl i newyddion