Yn ôl i newyddion

Helpu Hafizullah i gael gwaith

Yma yng Nghartrefi Melin, mae ein Tîm Cyflogaeth ymroddedig yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i helpu ein trigolion i hyfforddi, cael profiad, gwella eu CV ac, yn y pen draw, cael gwaith neu newid gyrfa. Mae’n rhan heriol a gwerth chweil o’r hyn rydym yn ei wneud ac yn 2021 mi wnaethon ni helpu 64 o’n trigolion gyda’r byd hyfforddi a gwaith.

Ysgrifennwyd gan Will

20 Meh, 2022

Hafizullah ar y safle

Mae pob achos yn wahanol, ond efallai dim un yn fwy nag un o’n straeon cyflogaeth llwyddiannus diweddar…

Stori Hafizullah

Daeth Hafizullah Ashratee a’i wraig i’r DU ym mis Hydref 2021 ar ôl ffoi o Affganistan yn dilyn cwymp y llywodraeth Affganaidd pan adawodd lluoedd arfog y gorllewin y wlad. Mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Fynwy a chynllun adsefydlu’r llywodraeth ar gyfer ffoaduriaid Affganaidd, cartrefwyd Hafizullah a’i wraig gyda Melin.

Roedd Hafizullah yn awyddus i gael gwaith gan ei fod eisiau cynnal ei wraig, na allai siarad Saesneg. Fodd bynnag, roedd yn wynebu llawer o rwystrau y bu i ni ei helpu i’w goresgyn. Roedd angen help i gael y gwaith papur cywir er mwyn gallu agor cyfrif banc ac yna roedd angen y cymwysterau iawn er mwyn cael gwaith.

Fodd bynnag, roedd Hafizullah yn benderfynol a chyda chymorth ein Tîm Cyflogaeth, fe wnaeth gynnydd gwych. Cafodd nid yn unig ei gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) (gan sgorio 49/50 hynod!) a phasio ei gwrs trefnu traffig, ond hefyd roedd ei Saesneg yn gwella ac roedd ei hyder yn cynyddu bob dydd.

Yn olaf, helpodd ein tîm gyda CV Hafizullah a gwneud gwaith hyfforddi ar gyfer cyfweliad gydag e cyn iddo wneud cais am swydd fel ceidwad gât gyda’r cwmni adeiladu Lovell. Roedd yn llwyddiannus yn ei gyfweliad ac mae nawr yn gweithio llawn-amser ar ein datblygiad Parc Elderwood newydd (Crick Road fel yr oedd) ym Mhorthsgiwed, Sir Fynwy.

Gan siarad am ei daith anhygoel, dywedodd Hafizullah: “Roeddwn wedi gadael Affganistan pan gwympodd y llywodraeth. Pan gyrhaeddais y DU, cefnogodd Cartrefi Melin fi. Maent wedi fy helpu i baratoi ar gyfer dau gwrs hyfforddi, darparu cludiant i fynd i’r cyfweliad am swydd a darparu llechen i fy ngwraig er mwyn iddi allu astudio.”

Beth sydd nesaf i Hafizullah

Gan edrych ymlaen at y 12 mis nesaf, mae Hafizullah yn teimlo’n optimistig. Meddai:

Mae gennyf lawer o gynlluniau, rwy’n edrych ymlaen at fynd ar fwy o gyrsiau a chael trwydded yrru er mwyn i mi allu mynd ymhellach yn y fy swydd gyda Lovell. Mae Parc Elderwood Parc yn brosiect mawr ac mae llawer o gyfleoedd.

Hafizullah Ashratee

Mae gweithio gyda Lovell ym Mharc Elderwood yn golygu y bydd Hafizullah yn chwarae rôl yn y gwaith o ddatblygu 269 o gartrefi newydd. Bydd y cartrefi hyn ar gael i’w rhentu, ar werth ar y farchnad agored a phryniant rhannu ecwiti. Byddant yn cael eu hadeiladu dros y pum mlynedd nesaf, wrth i Melin weithio mewn partneriaeth gyda Candleston, Lovell a Chyngor Sir Fynwy i ddelio gyda’r prinder tai yn Ne-ddwyrain Cymru.

Roedd Paula Skyrme, Arweinydd Tîm Cyflogaeth, wrth ei bodd gyda sut roedd Hafizullah wedi goresgyn adfyd i gychwyn ar fywyd llwyddiannus yng Nghymru. Meddai:

Mae Hafizullah yn llawn cyffro ynglŷn â’i ddyfodol ac roedd eisiau cefnogi ei wraig, nad yw’n siarad Saesneg, yn ariannol.

Paula Skyrme, Arweinydd Tîm Cyflogaeth — Cartrefi Melin

Aeth Paula ymlaen: “Mae wrth ei fodd bod ganddo’r cyfle nawr i ennill digon o arian i anfon yn ôl i’w rieni yn Affganistan. Mynegodd ei hapusrwydd o allu cynilo er mwyn cael gwyliau i fynd â’i wraig i ymweld â’i theulu yn y dyfodol.

“Mae Hafizullah bob amser wedi bod yn ddiymhongar iawn ac yn ddiolchgar am y cymorth a gynigiwyd gan Melin ac mae wedi bod yn bleser pur gweithio gydag e am y 5 mis diwethaf. Mae ef a’i wraig wedi dangos gwytnwch anhygoel wrth orfod adael eu cartref a’u teulu mor sydyn fel bod ganddynt dim ond y dillad roeddynt yn eu gwisgo.

“Dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer dyfodol hapus, iach.”

Gwyliwch y fideo

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld