Yn ôl i newyddion

Storïau Cyflogaeth - Rhan 2

Yma, rydym yn edrych ar sut mae trigolion Melin wedi gweithio gyda’n Tîm Cyflogaeth i fynd yn ôl i’r gweithle ac ehangu eu sgiliau. Nid yn unig mae ymuno gyda’n Tîm cyflogaeth yn helpu trigolion i gael hyd i waith, ond mae’n helpu hefyd i feithrin hyder, cryfhau sgiliau rhyngbersonol a gwella hunan-barch. Rydym yn aml yn gweld trawsnewidiad mawr yn y trigolion a buasem yn annog unrhyw un sydd wedi cael eu hysbrydoli gan rai o’n storïau cyflogaeth i gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni sut allwn ni eu helpu gyda chyflogaeth a hyfforddiant.

Ysgrifennwyd gan Will

28 Gorff, 2022

Dyn a dynes gwisgo dillad gweithiol

Mark Langdon


O: Casnewydd

Cefndir: Gweithiodd Mark yn Nociau Casnewydd am dros 20 mlynedd cyn iddo gael ei wneud yn ddi-waith. Roedd am gael hyfforddiant o’r newydd, ond roedd yn credu fod ei oedran yn anfantais.

Sut wnaethom ni helpu?: Helpon ni Mark i adnabod sectorau y gallai weithio ynddynt ac a oedd yn recriwtio staff. Fe wnaethon ni helpu Mark wedyn i gael trwydded HGV trwy ein partner hyfforddi, Heads of the Valleys Training. Rhoddon ni gymorth hefyd gyda thechnegau cyfweliad ac ysgrifennu CV.

Ble maen nhw nawr?: Cafodd Mark waith fel gyrrwr HGV i Bid Foods

Nid yn unig mae gan Mark incwm amser llawn reolaidd bellach, mae e’n gallu cynilo arian nawr a chynllunio am wyliau - rhywbeth nad oedd yn gallu gwneud gynt.

Aaron Carter — Cynghorydd Cyflogaeth Melin

Sarah Bone


O: Sir Fynwy

Cefndir: Roedd Sarah wedi bod allan o waith ers 12 mlynedd cyn cael ei chyfeirio at Dîm Cyflogaeth Melin. Roedd ganddi ddiddordeb mewn bod yn swyddog TCC.

Sut wnaethom ni helpu?: Cefnogon ni Sarah i ysgrifennu ei CV ac yna trefnon ni iddi fynd ar gwrs Cymorth Cyntaf yn y gwaith, ac yna hyfforddiant goruchwyliwr drysau gyda’r SIA.

Ble maen nhw nawr?: Aeth Sarah ymlaen i gael ei thrwydded SIA ac i weithio yn uwchgynhadledd COP26 ar yr hinsawdd yn Glasgow hydref diwethaf. Mae hi wedi ymgymryd â hyfforddiant pellach ac mae hi am weithio yn y sector diogelwch agos.


Yn y dechrau, wrth i fi ddechrau gyda fy nhrwydded SIA, roeddwn i’n amau y gallwn i lwyddo, roedd ffrindiau’n dweud hefyd eu bod yn amau y buaswn i’n llwyddo, ac ar y noson cyn fy niwrnod cyntaf roeddwn i gartref yn llawn pryderon! Serch hynny, rydw i mor ddiolchgar i dîm Cyflogaeth Melin am y gefnogaeth a gefais ar hyd yr amser. Rydw i wedi cael ffydd ynof i fy hun eto ac rwy’n sylweddoli fy mod i dipyn yn gryfach nag yr oeddwn o’n meddwl.

Sarah Bone
Cysylltwch â'r tîm trwy WhatsApp ar: 07830 365910.

Carl Morgan


O: Sir Fynwy

Cefndir: Cyn y pandemig, roedd Carl yn hunangyflogedig. Ar ôl cyfnod o fod yn hunangyflogedig, cafodd Carl waith gyda chwmni cynhyrchu lleol, yn gweithio ar res gydosod.

Sut wnaethom ni helpu?: Roedd bwlch rhwng bod Credyd Cynhwysol Carl yn stopio a’i gyflog cyntaf. Rhoddon ni help iddo gydag arian am ddillad ac esgidiau gwaith. Cefnogon ni Carl hefyd gyda chwiliadau pellach am swyddi a’i dechneg cyfweliadau.

Ble maen nhw nawr?: Yn ogystal â chael gwaith, mae Carl nawr wedi gwella’i hyder a’i ysgogiad.


Mae cael gwaith eto wedi rhoi safbwynt newydd i mi mewn bywyd ac wedi rhoi trefn newydd ar fywyd i fi.

Carl Morgan

Davina Coates

O: Casnewydd

Cefndir: Roedd Davina wedi bod allan o waith ers tipyn ac roedd hi’n edrych ar ôl ei mam a oedd yn dost. Daeth hi at y Tîm Cyflogaeth i geisio mynd yn ôl at waith.

Sut wnaethom ni helpu?: Cwrddon ni â Davina i drafod technegau cyfweliad a rhoddon ni gefnogaeth reolaidd iddi gyda cheisiadau am swyddi. Rhoddon ni gymorth iddi hefyd trwy ei rhoi hi drwy gwrs Cymorth Cyntaf yn y gwaith.

Ble maen nhw nawr?: Bu rhaid iddi ddelio â rhai ergydion i’w hyder pan oedd hi'n chwilio am swyddi, wrth i rai ceisiadau fethu, ond cyn hir fe gafodd swydd newydd yn gweithio fel swyddog diogelwch yn siop Sainsbury yng Nghasnewydd. Roedd hyn yn hwb mawr i’w hyder a’i hysgogiad.

Mae Davina’n gallu cynilo ychydig o arian nawr. Mae hi’n meddwl am gael gwyliau neu benwythnos i ffwrdd. Mae hi nawr yn teimlo’n fwy cadarnhaol wrth ddeffro pob bore ac mae hi’n mwynhau strwythur a’r penderfyniad sydd dod wrth fod yn gweithio.

Aaron Carter — Cynghorydd Cyflogaeth Melin

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld