Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd

Yn ôl i newyddion

Newyddion cyffrous: Melin a Chatrefi Dinas Casnewydd

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn dechrau rhaglen waith i archwilio ymhellach sut i uno'r ddwy gymdeithas i greu sefydliad newydd.

Ysgrifennwyd gan Fiona

16 Tach, 2023

Logo Melin a Chatrefi Dinas Casnewydd

Mewn ymateb i'r heriau yn y sector, bydd gan y sefydliad cartrefi newydd fydd â 15,000 o gartrefi, mwy o allu a gwytnwch ariannol a rhaglen ddatblygu flynyddol o 500 o gartrefi cynaliadwy. Mi fydd yn gallu i ymateb yn well i’r heriau y mae ein cwsmeriaid, trigolion a’n cymunedau yn eu hwynebu.

Bydd ein gwaith yn dechrau ar unwaith, a byddwn yn cynnwys cwsmeriaid, trigolion a chydweithwyr y ddwy gymdeithas.

Bydd y sefydliad newydd yn cynnig gwasanaethau sy’n well i gwsmeriaid a thrigolion ac yn ein galluogi i gynnig mwy o gyfleoedd i gydweithwyr.

Gan gydnabod faint o waith sydd ei angen, byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar ddiffinio'r amserlenni, penodi ymgynghorwyr, a phennu’r ffordd orau i’n galluogi i symud ymlaen ar gyflymder i uno.

Trwy gydol y broses, hoffem dawelu meddyliau ein cwsmeriaid a'n trigolion y bydd ein gwasanaethau'n parhau fel arfer.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am y llinellau amser a'r rhaglen waith ar gyfer 2024 yn cael eu paratoi erbyn diwedd y flwyddyn.

Ni fyddwn yn mynd ati i uno tan y bydd nifer o ofynion wedi eu bodloni, yn cynnwys caniatâd cyllidwyr a rheolyddion a chytundeb y ddau Fwrdd.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld