Yn ôl i newyddion

Ffordd apelgar i ddechrau’r flwyddyn

Mae grŵp o staff y gymdeithas tai wedi dod o hyd i ffordd apelgar i ddechrau'r Flwyddyn Newydd gyda chyflenwad o ffrwythau ffres diolch i'w grŵp iechyd a lles 'Zest!'

Ysgrifennwyd gan Sam

04 Ion, 2017

Ffordd apelgar i ddechrau’r flwyddyn

Mae grŵp o staff y gymdeithas tai wedi dod o hyd i ffordd apelgar i ddechrau'r Flwyddyn Newydd gyda chyflenwad o ffrwythau ffres diolch i'w grŵp iechyd a lles 'Zest!'

Ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl mae Zest! wedi hyrwyddo byw'n iach a chynyddu hapusrwydd ymysg staff. Mae'r grŵp yn cael ei gydlynu gan weithgor o staff Melin sy'n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o iechyd drwy ffitrwydd a byw yn dda.Mae Zest!

Mae Zest! wedi gwneud yn siŵr bod staff yn dechrau pob blwyddyn newydd gyda ffrwydrad o ffrwythau iach drwy gynnig orennau, bananas a grawnwin am ddim. Mae'r grŵp wedi gwneud llawer mwy na darparu ffrwythau am ddim ac mae'r staff hefyd wedi cael y cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau, o archwiliadau iechyd ac yoga, i ddosbarthiadau coginio iach a sesiynau blasu dringo creigiau. Mae Zest! hefyd wedi gweithredu Cynllun Seiclo i'r Gwaith, polisi dim ysmygu ac alcohol, a gweithdai gwybodaeth.

Mae hyn wedi arwain at ostyngiad mewn lefelau salwch o dros 6% i 2% yn unig ac mae 97% o staff yn teimlo eu bod wedi cael anogaeth i fod yn actif a chynnal ffordd iach o fyw. Mae'r grŵp hefyd yn gweithio gyda thrigolion i helpu i ledaenu'r neges iechyd a lles.

Dros y flwyddyn ddiwethaf prynwyd 34 o feiciau drwy'r cynllun seiclo i'r gwaith, mae'r grŵp wedi cynnal her gweithgaredd a arweiniodd 68 aelod o staff i gwblhau 3,583 o oriau o weithgarwch dros wyth wythnos. Mae wyth deg saith aelod o staff hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gael archwiliad iechyd am ddim a derbyniodd 38 o bobl asesiadau osgo.

Meddai Sharon Crockett, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Busnes : Mae Zest! wedi helpu i roi hwb i forâl y staff, ac wedi gwneud Melin yn lle hyd yn oed mwy cyffrous a bywiog i weithio. Nid yn unig ydyw o fudd i staff, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr busnes gwych, am fod gweithlu iach a hapus yn hollbwysig i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid."


Yn ôl i newyddion