Yn ôl i newyddion

Cymuned Garndiffaith yn dod at ei Gilydd i Ddechrau Dathlu’r Jiwbilî Platinwm

Ysgrifennwyd gan Will

01 Ebr, 2022

Un o wirfoddolwyr pwyllgor Neuadd y Mileniwm yn helpu i blannu coeden

Ar ddydd Iau 31 Mawrth, lansiodd gwirfoddolwyr Neuadd y Mileniwm Garndiffaith eu tymor o ddathliadau ar gyfer Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Gan weithio gydag ysgolion lleol, cynhaliodd y gymuned seremoni plannu coed yng ngerddi Neuadd y Mileniwm, gyda dwy goeden wedi eu hariannu gan Dîm Cymunedol Melin.

Daeth disgyblion o Ddosbarth 9 Ysgol Gynradd Garnteg a Blwyddyn 5 Ysgol Bryn Onnen draw i roi help llaw (a rhaw!) gyda phlannu’r coed. Er gwaethaf cawod annisgwyl o eira, plannwyd y coed yn llwyddiannus, ac yna cafodd y plant bwffe bwyd parti yn y Neuadd.

Un o wirfoddolwyr pwyllgor Neuadd y Mileniwm yn helpu i blannu coeden.
Un o wirfoddolwyr pwyllgor Neuadd y Mileniwm yn helpu i blannu coeden.

Dim ond cychwyn blwyddyn 2022 yw hyn ar gyfer Neuadd y Mileniwm Garndiffaith. Mae’r gwirfoddolwyr yn bwriadu cynnal parti jiwbilî ym mis Mehefin sy’n siŵr o fod yn llwyddiant mawr!

Roedd Helen Seymour, Swyddog Cymunedau Melin, yn falch o allu cefnogi dathliad jiwbilî y gymuned.

Mae gennym berthynas wych gyda’r gymuned yng Ngarndiffaith a’r gwirfoddolwyr yn Neuadd y Mileniwm yn arbennig. Roedd yn bleser gallu ariannu’r ddwy goeden newydd a helpu’r gymuned ddod at ei gilydd i ddathlu’r flwyddyn hanesyddol hon.

Helen Seymour, Swyddog Cymunedau — Cartrefi Melin

“Mae ymroddiad ac angerdd y gwirfoddolwyr yn neuadd y Mileniwm yn ysbrydoledig ac edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw.”

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld