Yn ôl i newyddion

Cymdogion Melin yn Dyfarnwyd Gwobr 'Diolch Cymdeithasol'

Rydym yn falch i ddyfarnu ein gwobr Diolch Cymdeithasol am y tro cyntaf

Ysgrifennwyd gan Will

17 Awst, 2022

Dwy dynes gyda tystysgrif

Emma Johnson

Cafodd Emma Johnson o Fagor ei enwebu gan ei chymydog drws nesa, Lynette. Mae Emma wedi helpu Lynette ar ôl spel yn yr ysbyty - yn galw i fewn i gynnig cefnogaeth iddi.

Mae Emma'n meddwl ei fod yn bwysig iawn i edrych ar ôl ei chymydogion ac yn ystod ein ymweliad i roi'r gwobr iddi, roedd Emma'n siarad i cymydog arall: dynes hŷn sydd wedi cwmpo. Yn wir, mae Emma yn Samariad Da!

Fel rhan o'i gwobr, dewisodd Emma i gael glasbren ei phlannu gyda ein ffrindiau, Stump Up for Trees.

Jane Reynolds

Cafodd Jane o'r Fenni ei enwebu gan ei chymydog Brian Nycholls. Fel Lynette, roedd Brian yn yr ysbyty, a phan daeth e allan, roedd Jane yn syth rownd i'w helpu. Gwnaeth Jane ei siopa iddo, a roedd hi'n sichrau bod Brian yn bwyta ac yn yfed yn iawn bob dydd.

Mae Jane yn brysur yn ei chymuned, gweithio fel gwirfoddolwr yn siop British Heart Foundation yn y Fenni. Yn ei hamser sbâr, mae hi'n hoff iawn o wneud jig-sos er mwyn ymlacio - digon teg ar ôl ei gwaith caled yn y gymuned!

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld